LluniauIan Holmes o Loegr oedd enillydd y ras 10 milltir gydag amser o 1:05:38 ond daeth Alun Vaughan o Lanberis yn drydydd gydag amser o 1:06:12 - y Cymro cyntaf i groesi'r llinell eleni.
Mae Ras yr Wyddfa yn cael ei disgrifio fel un o'r rhai mwyaf anturus yn Ewrop ac fe ddenodd gystadleuwyr o bob cwr o'r cyfandir eto eleni.
Roedd yno dimau cryf o'r Eidal, Ffrainc a Slofenia yn ogystal 芒 holl wledydd Prydain yn 么l y trefnydd, Jayne Lloyd.
Ychwanegodd ei bod yn gobeithio y bydd y ras yn denu mwy o gystadleuwyr byd-enwog y flwyddyn nesaf: "Y peth mwyaf am y ras ydy cefnogaeth y bobl leol," meddai.
"Roedd y nifer o bobl oedd yno yn wych ac mae llawer o bobl o dramor yn dod er mwyn profi'r awyrgylch.
"Mae pobl Llanberis mor falch o'u tre ac o'r ras - nhw sy'n gwneud y digwyddiad mewn gwirionedd.
"Roedd ganddon ni bencampwr y byd yn cystadlu eleni ac rydyn ni'n gobeithio denu mwy o'r athletwyr mawr rhyngwladol y flwyddyn nesaf."
Mae Alun Vaughan yn rhedeg i glwb Eryri Harriers ac wedi cystadlu sawl gwaith o'r blaen ond eleni oedd ei amser gorau.
"Wnes i ddim disgwyl rhedeg mor sydyn," meddai.
"Ond dwi'n hapus iawn efo'r amser a'r safle, trydydd. Gr锚t."
Daeth y Cymro Tim Davies, enillydd y llynedd, yn bedwerydd a'r Ffrancwr, Julien Rancot, yn ail.
Roedd cyflwynydd Radio Cymru, Stephen Edwards - y Weiran Gaws - yn rhedeg eto eleni ac roedd yn gobeithio gwella ar ei amser o 1 awr, 50 munud a 35 eiliad yn 2003.
Er iddo dorri munud oddi ar ei amser, dywedodd ei fod braidd yn siomedig gyda'i berfformiad a'i fod wedi gobeithio gwneud yn well: "Mi gwnes i hi i'r copa yn iawn ond mi gymerais yn hirach nag oeddwn i wedi ei obeithio i ddod i lawr.
"Dwi'n credu mod i'n hen ddigon ffit yn gorfforol ond ddim wedi paratoi yn iawn yn feddyliol."
Ond mae'n benderfynol y gall wneud yn well eto y flwyddyn nesa: "Dwi am gael hoe am ychydig i ddod dros y ras wedyn mi fydda i'n dechrau tr锚nio eto."
Roedd 大象传媒 Radio Cymru yn darlledu'n fyw o'r ras ar y diwrnod fel rhan o Daith Haf Radio Cymru gyda Meinir Gwilym, Max N a Gogz yn diddanu'r gynulleidfa yn Llanberis.
Roedd cyfle hefyd i gwrdd 芒 rhai o hoff gymeriadau Planed Plant Bach gan gynnwys Sali Mali, Sam T芒n, SuperTed a chymeriadau bywiog cyfres y 大象传媒, y Bobinogi.