Roedd yn rhan o fwrlwm gweithgareddau G诺yl Caernarfon ar ddydd Gwener, 23 Gorffennaf ac yna Ras yr Wyddfa ar ddydd Sadwrn, 24 Gorffennaf.Roedd cyflwynwyr Planed Plant yn perfformio eu sioe arbennig yng Nghaernarfon a chafwyd cerddoriaeth gan Max N, Epitaff a Martin John tra roedd Max N, Meinir Gwilym a Gogz yn diddanu'r gynulleidfa yn Llanberis. Cafwyd cyfle hefyd i gyfarfod 芒 rhai o hoff gymeriadau Planed Plant Bach gan gynnwys Sali Mali, Sam T芒n, SuperTed a chymeriadau bywiog cyfres y 大象传媒, y Bobinogi.
Yno hefyd roedd cyflwynwyr Radio Cymru - Jonsi yng Nghaernarfon a Hywel Gwynfryn yn Llanberis.
Dyma'r tro cyntaf i Blaned Plant a Radio Cymru fynd ar daith gyda'i gilydd trwy Gymru ac i'r gorau o s锚r y byd teledu a radio rannu llwyfan mewn 11 o leoliadau gwahanol.
Meddai Aled Glynne Davies, Golygydd Radio Cymru: "Mae Radio Cymru wedi credu'n gryf ers rhai blynyddoedd ei bod hi'n hollbwysig inni fynd 芒'n rhaglenni ni allan i ganol y bobl. Yn sicr, dydi eleni ddim yn eithriad.
"Rydan ni yn Radio Cymru yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gydweithio'n agos ag S4C - gan ddod 芒 chryfderau'r ddau d卯m at ei gilydd a chreu sioeau da nid yn unig i'r bobl fydd yn dod draw i'n gweld ni ond i'r rheini a fydd yn gwrando ar y radio."
Rhoddodd Eleri Twynog, Pennaeth Marchnata S4C, groeso i'r bartneriaeth newydd gyda Radio Cymru: "Byddwn yn teithio i bob cwr o'r wlad gan gyfarfod 芒 channoedd o blant a'u teuluoedd sy'n wylwyr Planed Plant ac yn wrandawyr cyson ar Radio Cymru. Mae'r daith hon yn caniat谩u i ni fynd 芒'r adloniant at eu stepan drws nhw, gyda rhywbeth at ddant pawb."
Manylion y Daith Haf:
Gwener, 23 Gorffennaf - G诺yl Caernarfon, Caernarfon
Sadwrn, 24 Gorffennaf - Ras yr Wyddfa, Llanberis
Iau, 12 Awst - Sioe y Siroedd Unedig, Caerfyrddin
Sadwrn, 14 Awst - Sioe Llanfyllin, Llanfyllin
Mawrth, 17 Awst - Sioe Sir Benfro, Hwlffordd
Sadwrn, 21 Awst - Sain Ffagan, Caerdydd
Mercher, 25 Awst - Sioe Sir Meirion, Llandrillo ger Corwen
Llun, 30 Awst - Carnifal Aberaeron, Aberaeron
Am fwy o fanylion am Daith Haf 大象传媒 Radio Cymru a Planed Plant S4C, cysylltwch 芒 Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 600 4141.