|
|
|
Vanta Menter busnes oedd Vanta i gychwyn cyn i'r band, sy'n debyg i ful meddai Mei Emrys (ar y dde), sylweddoli mai colli, nid ennill pres oedden nhw. |
|
|
|
Aelodau
Dwi'n canu ac yn chwarae'r git芒r rythm (Meilyr), Steven Williams sy' ar y git芒r flaen, Martin Howarth ar y b芒s a Gerallt Huws ar y drymiau.
O lle
Dwi'n dod o Fethel ac mae'r lleill i gyd yn dod o gyffiniau Llanrug, Ceunant, Caeathro a Crawiau.
Pryd wnaethoch chi ffurfio?
N么l yn 1998, pan roedden ni gyd yn y chweched yn Ysgol Brynrefail efo'n gilydd.
Pam ddaru chi ffurfio band?
Roedd pawb yn yr ysgol efo'i gilydd, a'r syniad gwreiddiol oedd ffurfio band er mwyn gwneud arian dros yr haf! Ond mi wnaethon ni ddarganfod eich bod yn colli lot mwy o arian na'i hel wrth fod mewn band. Yn ffodus, rydan ni wedi dechrau hel y pres 'na n么l erbyn hyn!
Gig gwaetha
Rhai o'r gigs cynharaf a dweud y gwir, cyn i bobl wybod pwy oedden ni. O flaen ryw ddau berson a chi!
Gig gorau
Yn Eisteddfod 2001 yn Ninbych. Ni oedd y prif band ar nos Wener yr Eisteddfod. Roedd ein CD cyntaf newydd ddod allan, a roedd o'n wych canu o flaen torf fawr oedd yn canu eich caneuon yn 么l i chi. Hefyd, roedd Maes B ym Meifod, yn dda iawn.
Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Mae gan y pedwar sy' yn y band ddylanwadau reit wahanol. Mae Ger y drymar yn hoffi'r Beatles, Martin ar y b芒s yn hoffi'r Chilli Peppers, Steve yn hoffi pethau fel U2 a ballu ac mae gen i feddwl reit agored a dweud y gwir. Hefyd, yn gyffredinol, rydyn ni i gyd yn hoffio bandiau o America fel y Goo Goo Dolls a Live.
Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Fel arfer, mi fydd Martin a Steve yn meddwl am y syniad, a finnau'r geiriau. Ond mae pawb yn y band yn cyfrannu lot tuag at 'sgwennu caneuon.
Be ydych chi'n ei wneud ar 么l gig?
Mae'n dibynnu. Os mai ni sydd wedi dod a'r holl offer efo ni, mae'n rhaid i ni wneud y gwaith diflas o bacio'r PA a ballu. Ond os mai gig mawr ydy o, fel yn yr Eisteddfod, yna 'da ni'n mwynhau ac yn yfed.
Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Well i mi ddweud Sara, fy nghariad!
Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Wel, roedd mynd i Ysgol Brynreifail yn help. Ar y pryd, roedd y Gogz yn dod at eu gilydd yn y flwyddyn iau, Epitaff yn y flwyddy h?n a hefyd Something Personal. Ac o fewn blwyddyn, roedd y pedwar band wedi recordio CDs efo pedwar label gwahanol yng Nghymru. Mae'n rhaid bod yn rhywbeth yn y d?r yn yr ardal!
Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Mul - achos fod ganddo bedwar coes ac yn reit aml, dydy o ddim yn si?r o'i bethau. Ond pan mae o'n cael popeth at ei gilydd, mae ganddo ufflwn o gic!
O lle ddaeth yr enw?
Does yna ddim stori i ddweud y gwir. Roedd y gig cynta ar y ffordd a doedden ni'n dal heb ddewis enw. Felly ddaru ni geisio meddwl am ryw air digon diystyr, y byddai pobl yn gallu ei gofio. Wedi'r cyfan, does dim llawer o bwynt cael enw gwych os nad ydy'r gerddoriaeth cystal.
Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Roc, epic a gwefreiddiol.
Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Neuadd Goffa Bethel achos fana oedd y lle cynta i ni ymarfer fel band. Gan ein bod ni wedi gorfod teithio a chwarae gigs ymhell i ffwrdd dros y blynyddoedd diwethaf, mi fuasai'n dda dod gatref a chwarae gig i bobl lleol.
Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Eistedd yn fy swyddfa yn Aber. Dwi'n llywydd ar Urdd y Myfyrwyr yma, ac yn ceisio gorffen popeth cyn mynd adref!
|
|
|
| |
Alwyn Richards o Aberystwyth Newydd ddod i nabod Vanta ydwi ar ol i gweld nhw yn rhyngol '05 yn Aber! Nhw odd band orau'r noson ac ma Mei yn ddarlithydd hanes i mi felly well i mi ganmol y band! Dwisio prynu ep's vanta ond dwnim lle ma nhw ar gael! Hwyl
Lois Evans o Fethesda Canu gret gan Vanta! A mae fy nhad wedi eu dysgu nhw yn yr ysgol (Mr Arfon Evans - Addysg Grefyddol). Cofio? Pob lwc efo'r canu hogia! Edrach ymlaen at yr album.
| |
|
|
|
|
听
|
|
|
|
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
|
|
|
|