大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Adar Brith
Geiriau ar feddrod RJ Lloyd Price
R. J. Lloyd Price

Ganwyd: 17 Ebrill 1843

Magwyd: St芒d y Rhiwlas, Llanfor, ger y Bala.


Sgweier ecsentrig y Rhiwlas ger y Bala a sefydlydd cwmni chwisgi Frongoch.

Beth yw ecsentrig? Yn fyr, rhywun sy'n ymddwyn yn wahanol i bawb arall heb iddo ef neu hi sylweddoli'r ffaith, ac yn hynny o beth roedd R. J. Lloyd Price, sgweier y Rhiwlas ger y Bala, yn wir ecsentrig.

Gellir olrhain llinach teulu'r Rhiwlas yn 么l at Farchweithian, sefydlydd yr Unfed Llwyth ar Ddeg o Uchel Dras. Arweiniodd un o'r hynafiaid, Rhys Fawr, ddynion Hiraethog i Faes Bosworth lle cododd faner y Ddraig Goch.

Ond os oedd Lloyd Price yn olynydd i arwyr, yr oedd ambell sgamp yn y teulu hefyd, a neb yn fwy felly na'r Doctor Coch, sef Cadwaladr Price, a ddisgrifiwyd gan Thomas Pennant fel 'y cnaf gwaethaf a'r gormeswr mwyaf yn yr ardal'. Brawd y Doctor Coch a sefydlodd Bendefigaeth y Rhiwlas, a heddiw mae'r llinach Price yn parhau yno gyda'r deiliad presennol, Robin Price, yn gymwynaswr a chymydog da.

Roedd ecsentrigrwydd R. J. Lloyd Price ar ei anterth yn ystod ail hanner y bedwerydd ganrif ar bymtheg. Ef, fel ymateb i her, roddodd gychwyn i ymrysonfeydd c诺n defaid yn 1873. Yn wir, ef greodd y gamp yn dilyn dadl yn y Turf Club yn Llundain. Mae darlun mewn olew ohono yn hongian yn y clwb hwnnw hyd heddiw. Y plac ar y Garth GochCeir llechen ar y Garth Goch, ddwy filltir i'r dwyrain o'r Bala, yn nodi'r fan lle cynhaliwyd yr ymryson cyntaf.

Roedd diddordeb y sgweier mewn c诺n yn ddi-ben-draw. Cadwai gymaint 芒 chant o fytheiad gan neilltuo darn o dir gerllaw'r plas fel mynwent i'r creaduriaid. Galwodd y fynwent yn South America a ch芒i pob ci ei garreg fedd bersonol ei hun. Coffeir yno ffyddloniaid fel Stay, Stric, Spot, Fatpaws, Nelly, Panore, Petite, Grisette, Oyster, Joe, Gather a Comedy.

Roedd Lloyd Price yn fardd a byddai'n cyfansoddi marwnadau i'r c诺n. Roedd yn awdur toreithiog hefyd ac ysgrifennodd lyfrau yn dwyn teitlau dyfeisgar fel Dogs Tales Wagged by Lloyd Price. Sefydlodd glwb o'r enw The Zigzag Club gan benodi un o'r c诺n, sef Gather, yn ysgrifennydd y clwb hwnnw. Un rheswm dros fodolaeth y clwb oedd chwarae criced, ond ceid rheolau caeth. Ni chaniateid taro'r b锚l yn rhy galed, a phe bai batiwr yn taro p锚l dros y clawdd, rhaid fyddai iddo naill ai ei n么l hi ei hunan neu dalu bachgen o'r Bala i'w n么l hi ar ei ran. Rheol gaeth arall oedd na ch芒i'r clwb chwarae criced yn erbyn neb a fyddai'n debygol o'u curo.

Dim ond un diddordeb a ddeuai'n agos at hoffter Lloyd Price o g诺n, a'i hoffter o geffylau oedd hwnnw. Yn wir, i geffyl mae'r diolch am i'r stad gael ei hachub mewn dyddiau pan oedd hi'n fain ar yr hen sgweier. Claddgell y teulu ger LlanforYn 1887 mentrodd rhan helaeth o'r stad ar geffyl o'r enw Bendigo yn y Jubilee Stakes yn Kensington. Enillodd Bendigo y ras ac adferwyd y stad. Gyda chyfran o'r arian cododd Lloyd Price gladdgell i'r teulu ym mynwent Llanfor, ac uwch y drws cerfiwyd y beddargraff:

As to my latter end I go,
To meet my Jubilee,
I thank my good horse Bendigo,
Who built this tomb for me.

Mae'r ffin rhwng ecsentrigrwydd a dyfeisgarwch yn un denau iawn. Yng nghanol ei ffolineb hoffus cuddiai gwreichionen athrylithgar, a llwyddodd R. J. Lloyd Price i droi'r Rhiwlas yn ddiwydiant. Er mawr siom i'r trigolion lleol aeth ati i droi'r stad ei hun yn fferm helwriaeth anferth gan sefydlu'r Rhiwlas Game Farm yn 1880 a chodi t芒l am saethu a hela. Roedd y syniad yn wrthun gan werinwyr traddodiadol. Yr un pryd, sefydlodd Lloyd Price waith brics a brwsys, melin lifio a gwaith calch, gwaith clai a chwareli. Codwyd tai cyfan o ddeunyddiau a gynhyrchid ar y stad. Roedd y stad hefyd yn cynhyrchu sebon, priddgalch ar gyfer pannu - cynnyrch a enillodd fedal ail safle a diploma yn Arddangosfa Chicago yn 1893 - a dechreuodd werthu d诺r iachusol o ffynnon Sant Beuno a oedd, yn 么l y broliant, 'mor oer 芒 n芒d asyn'.

Yn wir, proffwydodd Lloyd Price y c芒i Cwm Tryweryn ei foddi er mwyn disychedu Saeson. Yr unig ran o'i broffwydoliaeth i beidio 芒 chael ei gwireddu oedd iddo honni mai trigolion Llundain yn hytrach na thrigolion Lerpwl fyddai'n elwa.

Yn ddiau, menter fwyaf Lloyd Price fu sefydlu gwaith chwisgi yn y Fron-goch ar lan afon Tryweryn yn 1889 gan ddefnyddio d诺r o ffynnon ar dir Tai'r Felin gerllaw. Codwyd distyllty enfawr ynghyd 芒 thai i'r swyddogion ac i'r gweithwyr a sefydlwyd cwmni yn cynnwys arbenigwyr o'r Alban ac o Loegr. Ar labeli'r poteli cynnar ceid llun o Mrs Lloyd Price mewn gwisg ffansi yn yfed y chwisgi'n awchus. Yn achos y chwisgi dangosodd Lloyd Price ei natur ddyfeisgar ym maes hysbysebu. Cyflwynodd gasgennaid o chwisgi i'r Frenhines Fictoria ac un arall i Dywysog Cymru. Rhoddodd hynny rwydd hynt iddo hysbysebu'r ddiod fel Chwisgi Cymreig Brenhinol.

Yn anffodus, methiant fu'r fenter. Erbyn 1900 roedd y busnes wedi mynd 芒'i ben iddo. Y broblem, mae'n debyg, oedd natur y chwisgi. Er ei fod yn iawn mewn casgen, tueddai i wrthaeddfedu mewn potel, ond eironi'r sefyllfa yw bod potelaid o chwisgi'r Fron-goch heddiw yn werth hyd at ddwy fil o bunnau. Yn 1914 addaswyd y distyllty'n wersyll carchar i Almaenwyr ac yna ar gyfer ymron i ddwy fil o Weriniaethwyr Gwyddelig a gymerwyd i'r ddalfa yn dilyn Gwrthryfel y Pasg 1916.

Yn ystod ei gyfnod fel sgweier, llwyddodd Lloyd Price i elyniaethu llawer o bobl leol, yn cynnwys yr Aelod Seneddol Tom Ellis. Y fferm helwriaeth oedd prif asgwrn y gynnen, a'r ffaith i'r sgweier benodi ciperiaid o'r tu allan i'r ardal. Arweiniodd y cyfan at wrthdaro ffyrnig rhwng y tenantiaid ar un ochr a Lloyd Price a'i giperiaid ar yr ochr arall. Llwyddodd i elyniaethu llawer hefyd gyda'i safiad yn erbyn y tenantiaid a oedd yn cefnogi'r ymgeisydd Rhyddfrydol yn Etholiad 1859, pan daflwyd rhai deiliaid allan o'u ffermydd am wrthwynebu'r Tori.

Ond mae'n debyg i'r hen sgweier feirioli cryn dipyn erbyn diwedd ei oes, gan ddymuno bod yn ddim byd mwy na thirfeddiannwr poblogaidd fel ei hynafiaid. Bu farw ar 9 Ionawr 1923. Bron ddeugain mlynedd ar 么l codi'r ddaeargell honno ym mynwent Llanfor gydag arian Bendigo, fe'i gosodwyd i orwedd ynddi, a chollwyd gwir ecsentrig.

  • Mwy o hanes St芒d y Rhiwlas gan Buddug Medi
  • Ewch i ddarllen am ymweliad Cymdeithas Hanes Meirionnydd 芒'r Rhiwlas

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy