Bu Dei Tomos yn holi'r hanesydd lleol Buddug Medi ar gyfer 大象传媒 Radio Cymru.Darllenwch y cyfweliad isod neu cliciwch i wrando ar y sgwrs: Dei Tomos yn holi Buddug Medi am hanes st芒d Rhiwlas
Trawsgrifiad:
"Sefydlwyd y st芒d yn 1536 gan Cadwaladr Prys, brawd i Dr Elis Prys, Pentrefoelas - y Doctor Coch 芒 chysylltiad 芒 Phlas Iolyn.
Sefydlodd Cadwaladr Prys y st芒d drwy godi plas wrth y rhiw lle roedd coed p卯n, a dyna'r plas gwreiddiol, adeilad hir ag adain yn taflu allan; yn edrych yn gastellog iawn.
Fe rannwyd tir y ffermydd a chodi tai yno a'u gosod nhw i denantiaid ac mae dau deulu yma heddiw, er y dechrau: Hafod yr Esgob Isaf a Nant Hir."
Roedd tiroedd y Rhiwlas wedi cael eu dwyn adeg chwalu'r mynachlogydd?
Oedd, roedd Harri'r Wythfed eisiau cael gwared 芒 phob arlliw o Babyddiaeth oherwydd fod o eisiau cael gwared 芒'i wragedd mae'n debyg. Chae o ddim y rhyddid heb hynny, ac mae'n debyg i deulu Rhiwlas: Rhys, a Prys, a wedyn Price, fod yn hynod ffodus yn yr hinsawdd gwleidyddol yr oedden nhw yno fo, oherwydd roedd Rhys Fawr o'r Foelas, Pentrefoelas, yn mynd 芒 banner y Ddraig Goch i Bosworth ar ran Harri'r Seithfed, ond yn cael rhyw bedair/bum mil o aceri o dir am wneud hynny - cael ei wobrwyo. Rhyfeloedd y Rhosod oedd rheini wrth gwrs.
A wedyn ychwanegu at y tir yna, efo tir y mynachlogydd? A'r Rhys a'r Prys wedyn yn datblygu yn Price dros y blynyddoedd?
Ie. Roedd Richard Watkin Price yn Gymro reit dda ond ddim yn berffaith ei Gymraeg. Roedd o'n dweud am rhywun mewn claddedigaeth - wel dyn da iawn oedd hi...ond fyddwn ni gyd wedi marw rhyw ddydd, os byw ac iach!
Ond o leiaf roedd o'n siarad Cymraeg, ac mi roedd ei denantiaid o yn uniaith Gymraeg, ac roedd hynny'n wir ymhen cenedlaethau wedyn. Yn y blynyddoedd olaf mae na ddwyieithrwydd wedi cymryd lle.
Ond flynyddoedd lawer yn 么l mae'n si诺r gen i bod yr hen bobol yn noddi beirdd ac yn agor y drws, ac yn bur boblogaidd.
Mae'n bosib mai Rhiwlas oedd yn cadw y bardd teulu olaf yng Nghymru. Dwi'n gwybod yn yr ail ganrif ar bymtheg bod Ieuan Tew Brydydd yno, a Si么n Tudur. Ond yn y cyfnod pan oedd teulu Rhiwlas yn siarad Cymraeg oedd hynny.
Un o'r enwocaf, am sawl rheswm - hwyrach y busnes c诺n defaid 'ma, hwyrach y busnes betio a rasio ceffylau, oedd Lloyd Price, hen daid y Robin Price presennol sydd yn Rhiwlas.
Ie. RJ - Richard John Lloyd Price. A welodd o erioed mo'i dad. Roedd ei dad wedi marw cyn iddo gael ei eni. A'i fam o, Charlotte Lloyd o Rhagad, Carrog ger Corwen, ac mae'n debyg fod Charlotte wedi cael ei magu'n Saesnes. A phrin oedd Cymraeg RJ Lloyd Price, ond y fo ydy'r un mwyaf lliwgar, a'r enwocaf, o holl deulu Rhiwlas. Roedd o'n 诺r busnes; mi roedd o'n betio llawer iawn...mynd ar y tr锚n i Lerpwl, ac ar long i Cairo i chwarae cardiau. Ennill llawer iawn o bres, ac oedd hwnnw'n diflannu'n sydyn ddychrynllyd.
Roedd ganddo fo wraig, ac un mab. Mi roedd o'n meddwl y byd o'i wraig...roedd o'n rhoi dysgl myffin iddi, un arian, pan oedden nhw yn dathlu pum mlynedd ar hugain o briodas. Roedd o'n rhigymu o hyd, ac mae o wedi ysgythru ar y ddysgl myffin sydd dal yn Rhiwlas heddiw: In Cairo, the muffin means sweetheart, they say. So this muffin dish sweetheart I give you today - you are my muffin, my hot buttered toast; 25 happy years together we boast.
Chwarae teg iddo! Roedd o'n rhigymu ar bob carreg fedd i bob ci oedd yn marw. Roedd o wedi sefydlu mynwent g诺n yn Rhiwlas, ac mae honno heddiw a tyfiant mawr drosti, mae'n anodd iawn os nad ym amhosib fynd yno.
Roedd hwn yn heliwr mawr, yn doedd, ac roedd pobl yn talu i ddod yno i hela, rhywbeth arloesol iawn buaswn i'n meddwl.
Roedd o wedi etifeddu Plas Rhiwedog, yn Rhosygwaliau, a throi honno'n sporting hotel fel y gallai pobl bysgota yn yr Afon Hirnant a saethu ar y Berwyn. Ac roedd o'n troi tir yn warrin fawr i gadw'r cwningod, a rhai ffermydd yn gorfod ildio tir iddo fo sefydlu warrin. Fe saethwyd dros bum mil o wningod ar warrin yn Eglwys yn Nghwm Tir Mynach mewn un diwrnod yn 1885. Trannoeth doedd ond un wningen yn dod i'r golwg rhywsut neu'i gilydd. Roeddynt wedi cael digon o rybudd i ddiflannu!
Roedd o'n sgwennu beddargraff ar bob un o'r c诺n ma. Here lies Comedy. The best and dearest of all retrievers. Accidentally shot by her devoted and heartbroken master. October 2nd 1887. Wedyn: Major, y ci Airedale: Somewhere in the courts of heaven today an Airedale angel waits; with other angels he will not play, but sits alone at the gates. For I know that my master will come, says he, and when he comes he will ask for me.
Yn rhyfedd iawn, roedd perchennog yr Airedale wedi paratoi claddfa iddo fo'i hun...ac mae cefndir y stori yna'n un ddifyr, tydi?
Tri-deg-chwech o flynyddoedd wedyn, a hynny ym mynwent Llanfor. Yn betio, rhoi gwerth hanner ei st芒d ar Bendigo, ceffyl yn Ascot - mae rhai'n dweud iddo gael deg mil ar hugain yn 么l, mewn pres yr adeg hynny - y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Roedd o'n rhigymu eto: As to my latter end I go to seek my jubilee, I bless the good horse Bendigo, who built this tomb for me. A gwahodd Esgob Llanelwy i ddod i fendithio'r beddrod; roedd hwnnw'n rhyfeddu, gan ofyn be di hyn? Betio, i godi beddrod? Dydw i ddim yn bendithio unrhyw beth sydd wedi'i ennill ar hap chwarae.
Ac aeth yn 么l ar gefn ei geffyl i Lanelwy, a dyma gweithwyr y Rhiwlas yn tynnu'r garreg efo'r rhigwm 'ma arno fo ac yn rhoi carreg blaen yno. Dyma wahodd yr esgob eto - roedd RJ Lloyd Price wedi gweld y goleuni, a ddim am s么n am unrhyw hap chwarae ar dir sanctaidd mynwent Llanfor. A dyma'r esgob yn dod ar gefn ceffyl ac yn bendithio'r beddrod yn barod - does dim byd tebyg i baratoi eich bedd eich hun, nagoes! - ac wedi i'r esgob druan fynd yn 么l i Lanelwy dyma gweithwyr y Rhiwlas yn tynnu'r garreg blaen ac yn rhoi'r un wreiddiol, sydd yno hyd y dydd heddiw i'w gweld yn Llanfor.
A wedyn gwaith wisgi ac amryw o ddiwydiannau eraill - a'r busnes ras c诺n 'ma, y gyntaf erioed mae'n debyg i'w chofnodi, ie?
Ar y Garth Goch yn Rhosygwaliau, ac mae na gofeb r诺an i gofio hynny. Roedd o'n llawn syniadau, ac yn ysgrifennu llyfrau. Ar 么l gwerthu llawer iawn o ffesantod a chwningod a'u rhoi ar y tr锚n yn y Bala a'u gyrru nhw i Loegr i gael eu gwerthu a hyd yn oed cynhyrchu bwyd ar eu cyfer a gwerthu hwnnw hefyd a'i anfon ar y tr锚n.
Roedd o'n sgwennu llyfr Practical Pheasants Rearing, a llyfr arall, Rabbits for Profit, a Rabbits for Powder.
A wedyn yr hoffter o g诺n: Dogs' Tales, Wagged by RJ Lloyd Price, a Book for Middle Aged Children; Dogs Ancient and Modern; Walks in Wales...roedd o'n gynhyrchiol iawn iawn ym mhob ystyr.
Yn 1954 bu dymchwel yr hen blas; roedd na ddeg ar hugain o stafelloedd gwely yn fanno. Ond mi roedd y cyfleusterau'n brin iawn. Roedd yna ddau gant o blant cadw yno yn ystod y rhyfel. Roedd y pry' yno yn y pren, mi roedd y drysau'n isel oherwydd y cyfnod...yn 1536 roedd y pobl yn llai, ac roedd o'n llaith iawn iawn. Ac wedyn mi gafodd Cyrnol Price wasanaeth y pensaer Syr Clough Williams-Ellis i godi t欧 haws ei drin o lawer, yn yr union fan ag oedd yr hen d欧 castellog y plas. Roedd Cadwaladr Prys wedi rhoi rhyw deyrnged i'r Frenhines Elisabeth y Cyntaf yn yr hen blas, ac mi ddaru Cyrnol Price yr un fath, i'r ail Elisabeth: This beam placed here in reign of Elizabeth the 2nd with equal loyalty by Colonel KJ Price. Jonah Jones oedd yn ysgythru hwnna. Wnaeth o ddim roi'i enw, dim ond llun morfil. Ond fe symudwyd dodrefn o'r hen blas i'r plas newydd; mae'r bwrdd bwyta yn Rhiwlas yn gallu cymryd wyth ar hugain o bobl i giniawa, ac mae na'r un fath yn union gan Syr Watkin Williams Wynn yn y Cefn, Llanelwy. Ac mae'r drysau wedi dod o'r hen blas i'r plas newydd yn Rhiwlas, ac maen nhw'n werth eu gweld.