Dyma Emma Lile o Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, i fwrw golwg ar yr hen draddodiadau.
Hen wledd Geltaidd i ddathlu diwedd yr haf a hefyd diwedd ar yr hen flwyddyn oedd Calan Gaeaf. Roedd yn achlysur difrifol a gwir arswydus a byddent yn gwisgo masgiau i ddychryn yr ysbrydion drwg, ac nid i gael hwyl a sbri fel heddiw. Credwyd fod y bwlch rhwng y byw ac ysbrydion y meirw yn un agos, yn enwedig yr adeg yma o'r flwyddyn.
Fel nifer fawr o wyliau'r Celtiaid, cafodd Calan Gaeaf ei fabwysiadu gan yr eglwys, a'i ail-lunio fel G诺yl yr Holl Saint ar Dachwedd 1af a G诺yl yr Holl eneidiau ar Dachwedd 2il, sy'n parhau'r hen draddodiad o gofio'r meirw.
Merched sengl - dyma eich cyfle chi i ragweld pwy fyddwch yn ei briodi yn y flwyddyn i ddod! O'r 'stwmp naw rhyw' i'r gacen gyda'r naw cynhwysyn, roedd gan ferched y gogledd a'r canolbarth sawl ffordd o geisio cael cipolwg ar eu darpar w欧r ar noson Calan Gaeaf.
Wrth i'r goelcerth ddistewi, roedd rhaid i blant y gogledd ddianc rhag yr Hwch Ddu Gwta;
Adref, adref am y cyntaf; Hwch Ddu Gwta cipia'r olaf.
A beth am arwyddoc芒d yr afal? Ffordd arall i'r merched ddyfalu enw eu cariad newydd.
Mae plant wedi bod yn cael hwyl yn gwisgo i fyny ar Galan Gaeaf am ganrifoedd. Byddent yn cerfio wynebau ar rwdin neu feipen a'i gosod yn y ffenestri i ddychryn yr ysbrydion drwg i ffwrdd. Felly pa mor wahanol yw'r dathliadau Americanaidd heddiw?
Aferion Calan Gaeaf y canolbarth
Hen draddodiadau'r Nadolig a Chalan
|