|
|
|
Hanes Os ydych chi'n tyrchu i'r gorffennol neu am fynd ati i hel achau mae digon i'ch helpu ym M么n, Conwy a Gwynedd. Mae amrywiaeth o wefannau ar gael i'ch tywys drwy'r canrifoedd. |
|
|
|
http://www.betws31.freeserve.co.uk/
Mae'r wefan archaeolegol hon am Brosiect Kanovium yng ngwaelod Dyffryn Conwy yn cynnwys oriel o luniau hardd iawn.
http://www.heneb.co.uk/
Mae'r elusen addysgol a'r cwmni cyfyngedig hwn wedi cynnal sawl prosiect yn astudio'r tirwedd hanesyddol ar draws gogledd orllewin Cymru. Mae'r safle yn egluro'r gwaith a'r gwasanaethau, yn rhoi manylion a lluniau am y gwaith maen nhw'n ei wneud ac yn egluro sut i gymryd rhan.
http://www.cofis-dre-ar-y-we.co.uk
Mae'r safle dwyieithog hwn yn rhan o wefan boblogaidd Caernarfon Arlein. Yr hanesydd lleol Thomas Meirion Hughes sy'n ysgrifennu'r deunydd ac mae'n cynnwys straeon diddorol a lluniau o Gaernarfon.
http://www.anglesey-history.co.uk/index.html
Cyflwyniad clir i hanes yr ynys o'r cyfnod cyn hanesyddol i'r presennol. Rhestr ddefnyddiol o lyfrau ac adran ar fywyd gwyllt yr ynys.
http://www.tlysau.org.uk/index.php?lang=cy
Casgliad ar y we o ddogfennau, llythyrau, lluniau a chyhoeddiadau sy'n rhoi cip ar hanes a diwylliant Cymru. Prosiect ar y cyd rhwng orielau, amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai Cymru yw'r wefan, sy'n gosod goreuon hanes diwylliannol Cymu ar y we. Mae'n cynnwys creiriau o oes y cerrig, paentiadau o bobl gyhoeddus, llythyrau teuluol a hanesyddol a lluniau o fywyd cefn gwlad fel ag yr oedd. Mae'r adran Hwyl wrth Ddysgu yn rhoi arweinaid i wahanol adrannau hawdd eu defnyddio ac yn rhoi cip ar bynciau hynod ddifyr fel dyddiadur Tom Owen o F么n yn ffosydd y rhyfel byd cyntaf.
http://www.chs.cymru.org
Dyma wefan 芒 llawer o destun ynddi i'r hanesydd lleol go iawn sy'n rhoi manylion am y gymdeithas a'i gyfarfodydd yn ogystal 芒 rhestr hir o drafodion y Gymdeithas ers 1939.
http://www.castlewales.com/home.html
Mae'r awdur Jeffrey L Thomas yn mynd 芒 chi ar daith o amgylch holl gestyll Cymru, y rhai adnabyddus a'r llai adnabyddus gan amlinellu hanes ac adeiladwaith pob un a chan gynnwys ei luniau arbennig ei hun hefyd.
http://www.gwyneddfhs.org/
Mewn pum cangen rhwng Llandudno a Dolgellau, mae'r gymdeithas yn ceisio helpu pobl sy'n hel achau ac yn cynhyrchu nifer dda o gyhoeddiadau defnyddiol. Adnodd pwysig iawn wrth chwilio am eich cyndeidiau.
http://www.ardudwyknights.com/
Gwefan ddwyieithog gr诺p sydd wedi bod yn ail-greu bywyd a brwydrau yr 13eg ganrif yn ardal Harlech ers dros 20 mlynedd. Mae hon yn wefan syml iawn ei hadeiladwaith sy'n gwneud defnydd helaeth o'r ffont gothig ac yn cynnwys llawer o luniau. Mae'n cynnig gwybodaeth am wisgoedd, arfau ac arferion y cyfnod yn ogystal 芒 chyfle i weld y criw sy'n gyfrifol - Geraint, Arglwydd Penllyn, Syr Iorwerth o F么n a Syr James de Staniton yn eu plith! Felly, os ydych chi am weld lluniau o bobl wedi eu gwisgo fel marchogion, saethwyr a sgweiars, dyma'r wefan i chi! Mae yma hefyd wybodaeth am ddigwyddiadau'r gr诺p ac am eu hamcanion i ddenu twristiaid.
http://www.gwrych.org.uk/
Mae'r castell ffug Fictorianaidd hwn ger Abergele yn gyfarwydd iawn i bawb sy'n teithio ar hyd yr A55 neu ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Adeiladwyd y wefan gan griw o wirfoddolwyr sy'n brwydro i gadw'r castell ar ei draed ac i annog cefnogaeth. Mae'r safle'n adrodd hanes diddorol yr adeilad drwy gyfrwng gair a llun.
http://www.hanesmon.btinternet.co.uk/
Manylion am gyfarfodydd y gymdeithas, gwibdeithiau a chyhoeddiadau am Ynys M么n yn ogystal ag adnoddau defnyddiol i'r rhai hynny sydd am wybod hanes yr ynys.
http://www.penmorfa.com/Slate/
Mae gwefan hanes Dave Sallery yn cynnwys sawl agwedd ar y diwydiant pwysig hwn, ei chwareli, daeareg, technegau ac offer, y cyfan mewn lluniau hefyd.
http://myweb.tiscali.co.uk/celynog/
Beth am gyfuno diddoreb mewn henebion a cherdded gyda chymorth y wefan ddiddorol hon sy'n disgrifio teithiau cerdded i weld llwybrau mewn safleoedd megalithig ar draws Prydain. Digon o ddewis yn y gogledd orllewin a lluniau gwych o'r cromlechi, y siambrau claddu a'r cylchoedd cerrig.
http://www.llechicymru.info/
Mi gewch chi hanes y diwydiant llechi a chwarelwyr gogledd Cymru ar y wefan yma sy'n llawn gwybodaeth ac yn hawdd llywio drwyddi. Wedi ei pharatoi yn drylwyr gan adran Archifau Gwynedd, mae'n cynnwys hanes y llechen, bandiau arian lleol, dogfennau, map o brif chwareli'r ardal a hyd yn oed manylion llinach perchnogion y chwareli.
http://dolgellau.me.uk/
Bwriad y safle hwn yw rhoi blas ar hanes Dolgellau i drigolion y dref, ymwelwyr, ymchwilwyr hanes lleol a haneswyr teuluol sydd 芒'u gwreiddiau yn y dref. Mae'r cynllun yn syml a'r wefan yn rhwydd llywio drwyddi ac yn cynnwys adran am hanes lleol, hanes cymru a gwybodaeth ddefnyddiol am hel achau. Mae hefyd yn cynnwys linc i goeden deulu'r awdur, felly fe allech chi ganfod eich bod yn perthyn iddo!
http://www.amlwchdata.co.uk
Mae'n hawdd teithio i weddill y wefan o'r ddalen gartref ond mae'n rhaid i chi glicio'r botwm 'yn 么l' i barhau'r daith. Mae'r safle yn arbennig o addas os ydych chi'n chwilio am deulu o gylch Amlwch gan ei fod yn cynnwys cyfrifiadau'n dyddio n么l i 1801. Ar y safle hefyd mae gwybodaeth am eglwys a chapeli Amlwch a gwybodaeth ddiddorol fel disgrifiadau o dair ardal yn 1780.
http://www.copperkingdom.co.uk/
Ymddiriedolaeth Dreftadaeth Ddiwydiannol Amlwch sy'n gyfrifol am y safle ac mae'n llawn gwybodaeth am y diwydiant copr yn Amlwch, Ynys M么n. Mae'r ddalen gartref ar gynllun grid o luniau ac yn anghyffredin ond deniadol iawn. Rhaid symud y llygoden dros bob delwedd cyn cael gwybod beth sydd y tu 么l i'r delweddau. Cyfeirir at ddiwydiannau eraill hefyd gan gynnwys hanes pysgota lleol, adeiladu llongau a chemegau.
http://www.parysmountain.co.uk/
Mae'r safle hwn yn ffynhonnell ddihysbydd o wybodaeth ac mi gewch wybod y cyfan am gloddfa gopr mwya'r byd ar un adeg, fel pwy oedd pwy yn hanes y mwyngloddio, technegau cloddio copr a gwybodaeth am ddaeareg yr hen fynydd.
http://www.caernarfonmemorylane.co.uk/
Os ydych chi'n cofio tref Caernarfon yn yr hen ddyddiau, dyma le i hel atgofion! Mae'r casgliad o atgofion personol a'r straeon yn cynnig golwg ddiddorol iawn ar Gaernarfon hyd at yr 20fed ganrif. Tybed ydy eich hen lun ysgol chi yma neu lun o'ch hoff d欧 tafarn yma? Saesneg yw iaith y wefan yn bennaf, ond mae rhai erthyglau Cymraeg a chyfle i flasu iaith arbennig y Cofi hefyd!
Gadewch inni wybod os ydych chi'n gwybod am wefannau hanes lleol da eraill.
Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
|
|
|
|
|