"Dwi wedi bod yn hel y ffigyrau goliwog yma erstalwn. Ges i nhw o car boot sales. 'Dwi'n hoffi casglu llawer o bethau - dolis a tedis, a phethau fel y Tellytubbies. "Mae gen i lawer o luniau a llythyrau gan bobl enwog hefyd. Mae gen i luniau o Tony Blair, John Major, William Hague a Gordon Brown, a phobl o Coronation Street ac oddi ar y Newyddion. 'Dwi'n cael cerdyn penblwydd a Nadolig gan Eamon Holmes, gan fy 'mod i yn gyrru cardiau iddo fo.
"Mae fy nghariad yn dweud y drefn wrthaf am gasglu gormod o bethau, a mae o eisiau i mi wneud car boot sale i'w gwerthu. "Dywedodd yr arbenigwr fod y ffigyrau werth 拢50 efo'i gilydd, ond dim ond pum ceiniog yr un dales i amdanyn nhw!"*
 |