"Fe gefais i fy magu mewn rhan o'r wlad nad yw'n cael ei chysylltu 芒 phobl ddu. Cefais fy magu mewn tref glan m么r gwyn ar arfordir gogledd Cymru."Pan oeddwn i'n blentyn yn y chwedegau, doedd dim plant du yn yr ysgol, na phobl ddu yn gweithio mewn siopau nac mewn banciau. Doedd pobl ddu ddim yn dod ar eu gwyliau i Landudno a doedden nhw ddim ar y teledu nac mewn llyfrau oni bai eu bod nhw'n goliwogs neu'n anwariaid. Roedd fy myd i yn wyn iawn, yn glaerwyn.
"Yr unig bobl liw 'dw i'n cofio eu gweld oedd rhai o'r plant a ddeuai i gartref Dr Barnados o dro i dro. Mae'n anodd iawn perthyn pan fo popeth o'ch cwmpas mor wahanol i chi. Dyma pam fod hanes mor bwysig. Dyna pam fod hanes pobl ddu mor bwysig.
"Fe gymerodd lawer iawn o amser i mi gael hyd i hanes cyfoethog y bobl ddu sy'n rhan o'r ardal lle cefais i fy magu. Aeth ffrind 芒 mi i fynwent fach yn Llaneilian uwch ben Bae Colwyn gan dynnu fy sylw at feddau hogiau'r Congo.
"'Dw i'n cofio'n blentyn i Ma s么n bod coleg ar un cyfnod i hogiau duon ym Mae Colwyn ond wnes i ddim meddwl rhyw lawer am y peth. Yn 么l ym 1885, fe gyrhaeddodd dau hogyn bach o Affrica bier Llandudno ar fwrdd y stemar St Tudno ar 么l siwrnai hir dros dir, afonydd a'r m么r mawr.
"Hwn oedd dechrau'r cynllun mawr, syniad gwych y Parchedig William Hughes, a chynllun a ddaeth 芒 llawer o Affricanwyr ifanc i Gymru i hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth ac i ddysgu crefft.
"Roedd y Parchedig Hughes yn credu y dylid sefydlu colegau fel yr un ym Mae Colwyn i hyfforddi cenhadon yn hytrach nag anfon cenhadon gwyn i fynd drosodd i Affrica i rannu gair Duw gan fod cynifer ohonyn nhw'n marw yng ngwres y Congo. Y bwriad oedd anfon yr hogiau yn 么l i'w gwledydd eu hunain ar 么l eu hyfforddi ac iddyn nhw weithio yno i wareiddio eu pobl.
"Fel hyn, credai'r Parchedig, fyddai neb ym marw gan y byddai'r dynion du yma'n ddigon abl i ddiodde'r gwres a'r newid yn yr hinsawdd oherwydd eu cyfansoddiad corfforol! Ond, fe fu farw llawer iawn ohonyn nhw a chael eu claddu ym Mae Colwyn. Mae'r cerrig beddau yn dyst i gynllun uchelgeisiol ddaeth ag Affrica i Gymru ac roedd y stori wedi bod yn cysgu yn y beddau hyn am flynyddoedd.
"Dychmygwch yr hogiau ifanc yma'n gweithio mewn busnesau bach ym Mae Colwyn - yn yr argraffdai, y fferyllfa, gyda seiri coed a gofaint y dref.
"Dychmygwch nhw'n cerdded i'r eglwys ar hyd y stryd fawr. Meddyliwch am y part茂on yng ngerddi'r Institiwt. Meddyliwch am yr anwesu, y cusanu a'r canlyn rhyngddyn nhw 芒 rhai o'r genod lleol. Pobl dduon ym Mae Colwyn a hynny dros ganrif yn 么l. Dw i'n perthyn felly!"
Yr awdur:
Mae Charlotte Williams yn academydd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Cyhoeddwyd ei hunangofiant, Sugar and Slate, gan Planet Books ac enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru 2003.