大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Coch Bach y Bala Coch Bach y Bala - 'Yr Houdini Cymreig'
Ganwyd Coch Bach y Bala, neu John Jones, yn Sir Feirionydd tua 1853.
Gwnaeth ei anturiaethau ef yn enwog ar draws Gogledd Cymru pan ddihangodd, nid unwaith ond deirgwaith, o Garchardai Caernarfon a Rhuthun.

Fe'i galwyd hefyd yn 'Y Braw Bach Cymreig' a'r 'Turpin Bychan' ac fe ddatblygodd enw iddo'i hun fel potsiwr a lleidr penderfynol, yn treulio dros 60 mlynedd yn y rhan fwyaf o garchardai Gogledd Cymru, a nifer yn Lloegr.

O'r galwedigaethau amrywiol y bu John Jones yn eu dilyn - briciwr, saer coed, labrwr, morwr a thaniwr - roedd yn fwyaf enwog am ei botsio a'i ddwyn parhaus, a olygodd ei fod mewn trafferth rheolaidd gyda'r Gyfraith. Ers pan oedd yn ifanc, arferai ddwyn amrywiaeth o bethau, nifer ohonyn nhw o ddim gwerth o gwbwl iddo, ac arferai eu cadw mewn waliau neu gloddiau, a dychwelyd i'w casglu yn nes ymlaen.

Arferai Jones frolio am ei anturiaethau, yn aml yn mynnu ei fod wedi dwyn pethau nad oedd wedi eu dwyn mewn gwirionedd. Parhaodd y tueddiad i dynnu sylw ato'i hun nes iddo dyfu'n ddyn, a'r adeg honno achoswyd ei ddinistr gan y tueddiad i siarad yn gyhoeddus am ei anturiaethau diweddaraf.

Dihangodd Jones o'r carchar am y tro cyntaf ym Mis Tachwedd 1879, pan oedd yn disgwyl i sefyll ei brawf yng Ngharchar Rhuthun am ddwyn 15 oriawr yn y Bala a Llanfor. Un noson fe agorodd ddrws ei gell ei hun, yn ogystal 芒 drysau tair cell arall, cerddodd allan drwy prif ddrws y Carchar tra roedd y staff yn cael eu swper ac aeth allan i'r nos. Cynigiwyd gwobr o 拢5 am ei ail-gipio, ac, o'r diwedd, fe'i daliwyd dri mis yn ddiweddarach yn y gwely yn y Swan Inn, Mochdre ger Bae Colwyn. Tybed a oedd hyn o ganlyniad i wybodaeth gafwyd gan gwsmer a ddigwyddodd glywed straeon Jones yn y Swan Inn y noson honno?

Carchar Sirol Rhuthun - Rheolau ar gyfer y Carcharorion
"Bydd pob carcharor fydd yn euog o unrhyw un o'r troseddau canlynol yn wynebu cosb: Ceisio dianc, neu helpu eraill i wneud hynny, neu wybod am unrhyw ymdrech arfaethedig i ddianc ac heb gyflwyno adroddiad am hynny'n syth." Rheolau ar gyfer Carcharorion yng Ngharchar Rhuthun, circa 1850

Ceisiodd Coch Bach Y Bala ddianc o garchar am yr ail waith ym 1900 tra'n disgwyl cael ei drosglwyddo i garchar Dartmoor o Garchar Caernarfon. Roedd Jones wedi ei gyhuddo o ddwyn 拢10 o'r Waterman's Arms, Amlwch, ym Mrawdlys Biwmares, ac roedd wedi mynnu iddo gael ei 'fframio' gan yr heddlu. Yn wynebu dedfryd hir arall, cododd Jones faric锚d tu 么l i ddrws ei gell gyda rhannau o'r w欧dd gwehyddu oedd yn ei gell, a dechreuodd dwnelu drwy'r llawr. Methodd ei ymgais, felly dechreuodd ar ddedfryd hir arall yn y carchar.

Treuliodd John Jones dros hanner ei fywyd yn y carchar, gyda 10 gwahanol gyhuddiad am ddwyn, torri i mewn i adeiladau, ac, ar un achlysur, am godi terfysg yn erbyn yr Heddlu yn y Bala. Roedd yn hynod o 'wrth-heddlu', ond roedd ei ymddygiad yn y carchar yn gyffredinol dda (ag eithrio'r diangfeydd) yn aml yn cael ei ryddhau'n gynnar ar drwydded.

O ddeallusrwydd uwch na'r cyffredin, cyflwynodd Jones ei amddiffyniad ei hun ar sawl achlysur. Ym 1906, cafodd ei gyhuddo o ladrad ac ymosod yn ffyrnig ar ddynes 71 mlwydd oed. Yn yr achos dedfrydu, bu'n rhaid i'r llys Ynadon eistedd tan 3 am oherwydd hyd araith y diffynnydd i'r llys. Yn anffodus i Jones, ni lwyddodd yr araith hir ei achub rhag cael ei garcharu am 7 mlynedd yng ngharchar Dartmoor, o'r lle y cafodd ei ryddhau ym Mis Ionawr 1913.

Ymlaen ...


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy