大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Charles Duff tu allan i blasdy'r Faenol Cyfrinachau tu 么l i'r wal
Ar drothwy agor Eisteddfod y Faenol ar St芒d y Faenol ger Bangor, cymerodd rhaglen gan 大象传媒 Cymru gip ar hanes rhyfeddol y plasdy tu hwnt i'r wal, gan fynd i wraidd y s茂on a'r sgandal oedd yn amgylchynu'r teulu a'u cysylltiadau brenhinol.
Saif St芒d y Faenol ger Bangor y tu 么l i saith milltir o wal garreg sy'n ffurfio cylch amddiffynnol cadarn o'i hamgylch. Mae'n gyfarwydd i bawb bellach fel safle g诺yl fawreddog Bryn Terfel ond cyn cael ei werthu yn 1984, roedd y Faenol yn un o stadau mwyaf cefnog a phwerus Cymru.

Tua diwedd ei oes fel st芒d deuluol, roedd yn dyst i fywydau anghonfensiynol a llawn sgandal Syr Michael a'r Foneddiges Caroline Duff. Yn annisgwyl, ni chafodd eu hunig fab, Charles Duff, a fabwysiadwyd ganddynt, etifeddu'r st芒d, gan roi mwy o danwydd i'r dyfalu lleol yngl欧n 芒 phwy oedd ei rieni go iawn. Roedd y trigolion lleol yn sibrwd am gysylltiad brenhinol, a rhai'n awgrymu ei fod yn fab anghyfreithlon i'r Dywysoges Margaret.

Yn y rhaglen Saesneg, Faenol - Secrets Behind The Wall aeth y 大象传媒 芒 Charles Duff yn 么l i'w hen gartref teuluol am y tro cyntaf ers 25 mlynedd.

Ar ei daith emosiynol yn 么l i'r plasdy, mae'n siarad am ei fagwraeth, plentyndod ynghanol selebs, pwysigion a theulu brenhinol y dydd ac yn datgelu'r gwir yngl欧n 芒'i rieni go iawn.

Prif fynedfa a wal y Faenol"Rydw i'n caru'r rhan yma o'r byd ... ond mae dod yn 么l i'r Faenol ei hun yn creu teimladau cymysg," meddai Charles Duff, sydd bellach yn byw yn Llundain ac yn darlithio ar hanes y theatr yn Theatr y Globe ac yn yr Undol Daleithiau.

Roedd ei dad, Syr Michael Duff, tad bedydd yr Arglwydd Snowdon, a'i fam, y Foneddiges Caroline, merch Plas Newydd ym M么n, ill dau yn ddeurywiol. Cyfleustra oedd eu priodas ac roedd gan y ddau lu o gariadon. Ymysg partneriaid y Foneddiges Caroline roedd yr arlunydd Rex Whistler a'r Prif Weinidog, Anthony Eden.

"Roedd yn blentyndod rhyfedd iawn am ein bod ni gymaint ar wah芒n i bawb, wedi ein cau i mewn tu 么l i'r wal arw, ddigroeso yna," meddai Duff ar y rhaglen. "Roedd fel bod mewn ryw garchar gwych mae'n debyg, ond carchar go ddethol mae'n si诺r."

Roedd y t欧 yn croesawu gwleidyddion, aelodau'r teulu brenhinol a hufen cymdeithas, fel y gwelir yn hen ffilmiau preifat y teulu a fydd yn cael eu dangos yn gyhoeddus am y tro cyntaf ar y rhaglen. Maen nhw'n dangos pobl fel y Fam Frenhines, y Frenhines, yr Arglwydd Snowdon, y Dywysoges Marina, Cecil Beaton, y Dywysoges Margaret, y Prif Weinidog Harold Macmillan a'r Foneddiges Dorothy Macmillan yn ymweld. Mae llawer o'r lluniau yn yr albwm teuluol preifat wedi eu tynnu gan Cecil Beaton hefyd.

"Roedd yna lawer o ddawnsio yma," meddai Duff wrth sefyll yn neuadd binc y Faenol am y tro cyntaf mewn chwarter canrif. "Roedd yna garped oedd yn cael ei rolio allan, ac mi fyddai pawb yn dawnsio a chwarae gemau. Rydw i'n cofio'r Dywysoges Margaret yn blino pawb yn l芒n drwy ddawnsio drwy'r nos a'n cadw i fyny'r rhan fwyaf o'r noson. Roedd yn lle llawn hwyl, egni a llawenydd ac rydw i'n credu mai dyna'r math o le y dylai fod."

Y Foneddiges CarolineOnd cilio wnaeth yr hwyl a'r ysgafnder pan oedd Duff yn ei arddegau gyda dirywiad perthynas ei rieni.

"Roedd yna anniddigrwydd mawr ynddo fo," meddai Duff am ei dad. "Erbyn hyn roedd yn credu ei fod wedi gwneud camgymeriad difrifol yn priodi fy mam ac rydw i'n credu ei fod yn meddwl ei bod yn rhaid eu bod nhw wedi colli eu synnwyr yn mabwysiadu plentyn. Dwi'n credu ei fod yn teimlo fod popeth oedd wedi mynd o'i le yn ei fywyd yn deillio o hyn - a dechreuodd wneud bwganod o fy mam a minnau. I ddweud y gwir, unwaith y dechreuodd hyn ddigwydd, doedd yr un ohonon ni'n gallu gwneud ryw lawer yn iawn wedi hynny."

Ond er gwaethaf hyn, cadwyd wyneb yn gymdeithasol a chwaraeodd y Faenol ran ganolog yn arwisgiad y Tywysog Charles yng nghastell Caernarfon yn 1969. Roedd 18 o aelodau'r teulu brenhinol yn aros yno, fel y gwelir mewn ffilmiau o'r cyfnod a ddangosir am y tro cyntaf ar y rhaglen.

Aduniad yn y FaenolMae'r rhaglen hefyd yn dangos a aduniad rhwng Charles Duff a chyn aelodau o staff y Faenol a chyfweliadau gyda phobl leol sy'n ailadrodd s茂on y cyfnod a barn trigolion yr ardal ar y pryd. Ac mae'r hanesydd a'r archifydd Gareth Heulfryn yn s么n sut y cafodd cofnodion st芒d y Faenol eu llosgi yn 1984 pan werthwyd y st芒d, gan ychwanegu at y teimlad o gyfrinachedd sy'n amgylchynu'r hanes.

Mae Marcwis M么n, sef brawd y Foneddiges Caroline, hefyd yn cael ei gyfweld ar y rhaglen.

"Roedd hi'n ferch fendigedig, dynes wych," meddai am ei chwaer. "Roedd hi'n actores am gyfnod pan oedd hi'n ifanc ac yn eitha' llwyddiannus. Roedden nhw'n anghonfensiynol iawn, rheina draw yn y Faenol," ychwanega.

A beth am deulu go iawn Charles Duff? Mae'n datgelu ei fod yn gwybod pwy yw ei rieni gwaed ac mae'n ateb y sibrydion lleol am sgandal brenhinol.

"Roedd cynhyrchu'r rhaglen ddogfen yma yn wirioneddol ddiddorol," meddai'r cynhyrchydd Llinos Wynne. "Roedd Charles Duff mor barod i siarad yn agored am ei fagwraeth anghonfensiynol, ac weithiau poenus, yn y Faenol. Mi gawson ni rwydd hynt i ddefnyddio oriau o ffilmiau preifat a lluniau teuluol - nifer ohonynt wedi eu tynnu gan Cecil Beaton ei hun.

"Roedd y rheiny ar eu pen eu hunain, yn codi'r llen ar fywyd fel yr oedd y tu 么l i'r wal gyfarwydd honno. Ond gyda pharodrwydd Charles i siarad mor agored hefyd, mae'n rhaglen sy'n eich denu i wylio."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy