Ymlaen i'r Ysgol Fawr (Parhad o atgofion ysgol Glyn Heddwyn)"Cyrhaeddodd mis Medi a sumud o fod yn bysgodyn mawr mewn pwll bach i fod yn sardin mewn m么r anferth. Ni hoffais y lle o gwbwl ac mae arogl lledr newydd yn fy atgoffa o'm bag ysgol ac yn rhoi rhyw dro yn fy mol hyd y dydd heddiw. O fod mewn dosbarth o ddwsin yr oeddwn erbyn hyn mewn dosbarth o ddeg ar hugain ac yn lle athro neu athrawes yn gyfrifol am y dosbarth trwy'r dydd deuai athro newydd i'r ystafell ar gyfer pob gwers wahanol. Diflannodd y cyfeillgarwch cynnes a wnai i rywun deimlo'n saff ac yn ei le daeth awdurdod a'r sylw i reolau ac i mi rhyw anesmwythyd ac ofn gwneud rhywbeth o'i le yn ddiarwybod, a chan na wyddwn beth oedd hunan hyder heb s么n am fod gen i beth, nid oes ryfedd fy mod heb setlo yno. Yr oedd eira wedi disgyn un bore a phan aethom i'r ysgol yr hwyl fawr oedd taflu mops at unrhyw un a phob un. Yn y gwasanaeth boreol siarsiwyd ni gan y dirprwy brifathro a oedd yng ngofal yr ysgol ar y pryd fel acting headmaster nad oedd neb o'r lleiaf i'r mwyaf i lechio eira yn y ffordd a arweiniai at yr ysgol. Yn ystod amser chwarae canol bore cerddwn i lawr y ffordd hon pan gefais fopen yn fy nharo yn daclus ar ochor fy mhen. Gwelais o ble y daethai a dyma afael mewn dwy law o eira, ei wasgu'n belen a thaflu yn 么l mewn dial. Daeth llais o'r tu 么l imi, "You there boy!" a phan drois gwelais y dirprwy a oedd yn digwydd bod yn dod rhyw ddeg llath tu 么l imi. Nid oedd waeth heb na cheisio osgoi, yr oeddwn wedi clywed y rhybudd yn ddigon plaen fel pawb arall lai na dwy awr yn 么l. Traethawd fu fy nghosb - pum tudalen ar eira. Y wers nad oeddwn yn hoff o gwbwl ohoni oedd Ymarfer Corff, achos ein bod yn amlach na pheidio yn gorfod rhedeg traws gwlad. Un o'r troeon prin pan fum yn rhedeg cymerodd Deiniol fy ffrind a mi bron i ddeugain munud i gwblhau y daith. Yr wythnos wedyn, gan fod y cwrs yn mynd ar hyd y stryd ac o olwg yr ysgol ac wedyn allan i'r wlad am ryw filltir cyn inni droi yn ein holau penderfynodd Deiniol a minnau eistedd ar wal gardd rhyw d欧 ac ar ol i ryw hanner dwsin o'r hogiau basio yn 么l mynd ar eu holau yn 么l i'r ysgol. Yr oeddem yn 么l yn yr ysgol o fewn ugain munud neu lai o adael y lle ac fe ddeallodd yr athro yn syth nad oeddem wedi mynd i ben draw y daith. Ni chawsom gosb, yr oedd y cywilydd o fod wedi ceisio twyllo yn ddigon i sicrhau na ddigwyddai yr un peth eto. Yr arholiad gwyddoniaeth amaeth oedd yr arholiad olaf (yn y bumed flwyddyn) ac euthum i neuadd yr ysgol ple y cynhelid arholiadau gyda'm offer ysgrifennu. Nid oedd ond fi ac un athro yno, gorffennais y papur tair awr mewn rhyw ddwyawr a thri chwarter, euthum i n么l fy mag a'm cot a cherddais allan trwy'r adwyon am y tro olaf fel disgybl. Yn union fel y diwrnod cyntaf yr oedd yn brynhawn chwilboeth ond yn wahanol i'r diwrnod hwnnw yr oedd deng mlynedd a mwy o addysg tu 么l imi yn hytrach nac o'm blaen." Glyn Heddwyn, Enillydd Cadair Eisteddfod Plant yr Orsaf, Trawsfynydd 2003. N么l i'r dechrau
|