"Dwi'n meddwl fod plygain yn golygu 'caniad y ceiliog'.
"Roedd yna blygain yn y pentref ger ein pentref ni, Cnwch Coch yng Ngheredigion yng nghyfnod y rhyfel, yn Llanfihangel-y-Creuddyn. Roeddent yn cynnal y plygain am bump o'r gloch y bore, a byddai pobl ifanc ein pentref ni yn codi ryw bedwar y bore ac yn cerdded milltir i'r cwrdd.
"Ddaru nhw addo y byswn i'n cael mynd y flwyddyn nesaf, pan roeddwn yn deng mlwydd oed - ond erbyn hynny roeddwn wedi gadael fy nain a fy nhaid i fynd i Lundain, a ches i erioed fynd i'r plygain.
"Ond Calenig oedd ein diwrnod mawr ni. Byddai plant y pentref i gyd yn mynd o gwmpas yn canu c芒n y Calenig, rhywbeth fel 'Calenig gyfan, a heddiw'n ddydd calan, unwaith, dwywaith, tair...'
"Byddem yn mynd o amgylch y tai, yn hel arian gan gymdogion caredig!"
Roedd cantorion o fri yn dod i ddathlu ym Mhenmaenmawr, yn 么l Beryl Williams.
"Roedd yna gyngerdd bob noson Nadolig ym Mhenmaenmawr, un mawreddog yn y Capel Wesleaidd. Byddai David Lloyd, Henryd Jones, Mary Jones Llanfairfechan a'r gontralto Evelina Williams i gyd yn canu - roedd yn ardderchog.
"Yn y dydd, byddwn yn gwneud pethau digon cyffredin fel chwarae monopoli, lexicon neu efallai wist.
"Byddem yn mynd i hel calennig ym Mhenmaenmawr hefyd."
Dyma Jennifer i roi blas ar ddathliadau Llan Ffestiniog.
"Byddem yn cael g诺yl nos Calan tan yr hwyr - mae eraill yn ei alw'n 'swari', yn 'watchnight' neu yn gwrdd calan
"Yna, mynd rownd Tanygrisiau'r diwrnod ar 么l y Nadolig, rhai yn pwshio pram neu'n reidio beic - roedd yn amser heddychlon iawn.
"Mi ges i bram gan Santa Cl么s un Nadolig. Yn ddiweddarach mi wnes i ddallt bod y pram yn ail law gan fy ewythr ym Manceinion! Dwi ddim yn si诺r o ble ddaeth y ddoli efo pen china a chorff meddal, ond byddai breichiau plastig Sali druan yn malu a byddai'n rhaid iddi fynd at y gof yn y chwarel i gael ei thrwsio!"
Roedd miri mawr ym Minffordd, yn 么l Enfys.
"Dwi'n cofio deffro bore Nadolig, symud yn y gwely a chlywed y papur yn symud: 'Mae o wedi d诺ad!' Methu'n glir dod 芒 nhw allan o'r gobennydd yn ddigon buan i weld be oeddwn i 'di gael - oren, afal, cnau a 'Californian Poppy' - sent neis! Ac arian siocled mewn papur arian, roedd yn rhaid eu hongian nhw ar y goeden ar 么l codi a chofio pwy oedd biau p'run, a gofalu nad oedd fy mrawd neu fy chwaer yn bwyta fy mwyd i!
"Mae'r rhwydan bach o gelyn oedd gen i yn y t欧 fel plentyn gen i byth - mond dau b么bl sydd arni erbyn hyn, ond os dwi ddim yn ei roi allan bob Nadolig mae'r plant yn gofyn 'Lle mae o mam?'"
Mwy o atgofion criw Merched y WawrGwneud cyflaith