Dyma lythyr gan Eluned Morgan, merch Plas Hedd, at beth rydym yn cymryd roedd ei chariad hi, John y Bedol. Ganed Eluned ar fwrdd llong y Myfanwy ar y ffordd i Batagonia. Roedd ei thad o Gaernarfon yn wreiddiol.
Roedd John ar fin mynd i Gymru am ei addysg ac roedd hi'n poeni beth fyse fo'n meddwl ohoni wrth ddod 'n么l.
Ddaru hi sgwennu lot o lythyrau a'i rhoi i gyd mewn llyfryn bach fel bod ganddo rywbeth i atgoffa fo ohoni yng Nghymru.
Ynddo, mae hi'n dweud bod ganddi anrheg iddo- ysgrifbin - fel hint iddo sgwennu 'nol ati!
Dwi ddim yn gwybod beth ddigwyddodd rhyngddi hi a John, dim ond bod y ddau wedi aros yn ddi-briod.
Mae Eluned yn enwog am sgwennu llythyrau at ddynion. Ysgrifennodd am gyfnod maith at O M Edwards a William Lloyd George, brawd David. Roedd hi'n ddynes a phersonoliaeth gref a dwi'n meddwl ei bod hi wedi dychryn sawl dyn.
Ond mae ei llythyrau hi'n fendigedig i'w ddarllen. Mae ei harddull mor hyfryd, mae'n bechod peidio 芒 rhannu nhw efo pawb, er ei bod hi'n dweud mewn un lle ei bod hi'n poeni y gall llygad y byd eu gweld.
Fy hoff John,
Nos Wener
(...)Gyda'r llythyr hwn yr wyf yn rhoddi anrheg fechan i chwi, i gofio am
danaf pan fydd perygl i chwi fy anghofio; a phob tro yr edrychwch arni
bydd yn "hint" i chwi fod eisiau ysgrifennu at Eluned, ni fydd eisieu i chwi
fynd ir drafferth i chwilio am inc, canys yn yr anrheg wele benholder ai
lond o inc, ac ysgrifenna am fisoedd heb i chwi symud ei flaen mewn inc,
yr wyf fi wrthi yn ysgrifennu ag ef yn awr...[darn ar goll].
Hoffwn yn fawr pe gallai fy narlun eich helpu a'ch cysuro, fel y gwn芒i Eluned, pe yn eich
cyrraedd, ond bydd yn goffadwriaeth i chwi sut wyneb fydd yn plygu
uwch ben y llythyrau fydd yn llithro dros y Werydd; byddaf yn disgwyl
eich darlun chwi yn mhen rhyw dri mis ar 么l i chwi lanio draw, cofiwch
fynd at arlunydd da, mae'n rhatach yn y diwedd; a pheidiwch tynnu eich
llun yn eich hyd, ond hyd yr ysgwyddau yn unig. Dyna fi wedi rhoddi
cyfarwyddiadau ddigon buan onide? (...)
John anwyl, beth sydd i ddod o'r croud sydd yn brysur fynd yn Indiaid: nid ydym ni ond megis dyferyn yn y m么r, ond na ddigalonnwn. Bu hen Gymru yn cysgu am ganrifoedd,
ond mae'n deffro'n awr. Cael nap mae'r Wladfa, a rhaid i ninau fod yn
gryf ac eofn i chwythu cyrn gwybodaeth a choethder i'w deffro. (...)
Nid oes ond mis eto ar y goreu, na fydd fy mrawd yn bell, bell
Oddi wrthyf, ac Ow'r unigrwydd hwnnw, pwy ai gwyr! (...)
CYFROL 1 (1865-1945)
Ffarwel fy mrawd anwyl i, And God bless thee.
Ever your own Sister Eluned.
Mari Emlyn yn s么n am lythyr o fewn ei llyfr, Llythyrau'r Wladfa.
Llyfr Llythyrau o'r Wladfa.
Llythyr yn dathlu cyrhaeddiad y Mimosa.