大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tebot Michael D Jones Tebot y Wladfa
Cafodd Mair Edwards o'r Bala ei geni a'i magu yn y Wladfa. Daeth 芒 thebot arbennig i'r Antiques Roadshow a oedd yn eiddo i Michael D Jones, un o sylfaenwyr y gymuned Gymraeg yno.
Mae Mair hefyd yn s么n am gylch teulu sy'n olrhain achau rhai o'r gwladychwyr cynnar.

"Dyma debot Michael D Jones, sylfaenydd y Wladfa ym Mhatagonia. Fo aeth 芒 chriw o 153 o'r Bala yno flynyddoedd yn 么l ar y Mimosa.

"Dywedodd yr arbenigwyr bod y tebot werth 拢100, ond mae o werth llawer mwy yn hanesyddol.

"Mi wnes i symud i Gymru pan briodais i Gymro yn 1977. Mair Jones oedd fy enw cyn i mi briodi. Mae gennyf deulu yn dal i fod yn y Gaiman, Patagonia; brawd a chwaer, cefndryd a chyfneitherod. Mae Luned Gonzales yn athrawes yn y Gaiman, a Lewis Roberts yn yr Unol Daliaethau.

"Aeth fy nhad, Walter Gwyn Jones o Felin y Coed, allan i'r Wladfa yn 1911. Roedd yn dioddef yn ofnadwy o asthma, a dywedodd y doctor y byddai gwlad sych yn well iddo. Setlodd yn y Wladfa, ar 么l mynd draw yn 18 mlwydd oed. Fe wnaeth gyfarfod 芒 mam, oedd o deulu a ddaeth yn wreiddiol o Aberystwyth ond wedi setlo yn Bolton. Gweithiodd fel melinydd yn Nhrevelin, gan iddo fod yn felinydd ym Melin y Coed.

"Mae fy chwaer yn siarad Cymraeg, ac mae ei merch, Eleri, yn siarad Cymraeg hefyd. Mae ei phlant hi, Nadia a Vali, yn dysgu Cymraeg, er bod Vali, sy'n 16 mlwydd oed, wedi gorfod gadael y Gymraeg am y tro, gan ei bod hi eisiau dysgu Saesneg i fod yn athrawes.

"Wrth gerdded i lawr y stryd yn y Gaiman bydd pobl croen tywyll yn gofyn os ydych o Gymru, ac yn dweud bod ganddynt Gymry yn eu teulu nhw hefyd. Maent yn falch o ddod o dras Cymreig. Mae'r Cymry ar chw芒l ymhobman - hyd yn oed ym Muenos Aires, prifddinas yr Ariannin.

"Dwi'n hoffi'r ddau le yr un fath - Cymru fach, a'r Wladfa. Roeddwn i yn y Wladfa ddiwethaf ddwy flynedd yn 么l. Roeddwn i yn arfer trefnu tripiau gyda fy ng诺r, Dei, a dwi'n bwriadu trefnu un arall cyn bo hir.

"Yn y dyfodol, mi fydda i'n mynd yn 么l i fyw i Batagonia. Mae fy chwaer a fy mrawd eisiau i mi fynd yn 么l, ond yn anffodus, nid yw sefyllfa ariannol yr Ariannin yn dda ar y funud, felly fydda i ddim yn mynd yno eleni - ond rhywbryd. Ges i gynnig byngalo yn y Bala, felly penderfynais ei gymeryd am r诺an.

Cylch teulu Elias Garmon"Dyma hefyd gylch teulu Elias Garmon Owen, y fu farw yn y Wladfa tua 1955. Roeddwn yn adnabod ei nai, Elias Garmon, a byddem yn ei alw'n Taid Gwyndy. Ar 么l byw yn y Wladfa, daeth yn 么l i Gymru i fyw, gan ei fod yn dod o Gapel Garmon yn wreiddiol. Roedd Elias Garmon hefyd yn perthyn i deulu Tal y Sarn a Dr Kate Roberts.

"Mae'r cylch teulu yn reit fregus, a dwi wedi trio ei drwsio. Ges i afael arno gan fod Elias Garmon wedi ei roi i fy ffrind, Tecwyn Edwards. Ganddo fo mae'r unig gopi arall."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy