大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Thomas Telford Thomas Telford
Bob Daimond o Sefydliad Peirianwyr Sifil Cymru sy'n edrych ar gyfraniad enfawr Thomas Telford - tad yr A5 o Lundain i Gaergybi a phensaer rhai o'n pontydd enwocaf. Dathlwyd 250 mlwyddiant ei eni yn 2007.
"Ganwyd Thomas Telford ar 9 Awst 1757 ar lan yr Afon Megget ger Langholm. Bugail oedd ei dad ond bu farw cyn diwedd y flwyddyn, ac felly tlawd iawn oedd y teulu.

Er hynny, tyfodd i fod y peiriannydd sifil mwyaf cynhyrchiol a pharchus ei oes, yn gymrawd y Gymdeithas Frenhinol ac yn Llywydd cyntaf Sefydliad y Peirianwyr Sifil.

Gyda chymorth gan amryw o bobl leol, cafodd Thomas ei addysgu yn yr ysgol a chafodd ei brentisio fel saer maen pan oedd yn 14 oed. Gweithiodd ar wahanol adeiladau syml yn yr ardal, ac ar bont yn Langholm, sydd yn sefyll hyd heddiw.

Aeth i Lundain yn 1782 i weithio ar Somerset House, a chafodd ei ddyrchafu'n fuan. Rhwng 1784 a 1786, gweithiodd fel goruchwyliwr ar amryw adeiladau yn iard ddociau Portsmouth.

Cafodd ei benodi fel Syrfewr Gwaith Cyhoeddus Sir Amwythig yn 1786. Erbyn 1798 roedd wedi adeiladu tair eglwys a mwy na 40 o bontydd yn y Sir. Am gyfnod o ugain mlynedd bu hefyd yn gweithio ar gamlesi Ellesmere a Llangollen sydd yn cynnwys traphont ddwr Y Waun (1801) a Phontcysyllte (1805). Yn ddiweddar, mae Pontcysyllte wedi'i chynnwys ar restr fer o safleoedd ar gyfer statws Treftadaeth y Byd, a disgwylir penderfyniad terfynol ar y cais yn ystod 2007.

Rhwng 1800 a 1820 rheolodd raglen i wella cysylltiadau yn Yr Alban, yn cynnwys 900 milltir o ffyrdd newydd, 300 milltir o welliannau, oddeutu 1000 o bontydd a gwelliannau i ugeiniau o borthladdoedd bychain. Ar yr un pryd yr oedd yn gyfrifol am ran sylweddol o'r gwaith dylunio ac adeiladu ar Gamlas Caledonia.

Yn 1808 cafodd ei wahodd i syrfeio llwybr ar gyfer camlas longau ar draws Sweden, a chafodd ddylanwad sylweddol ar gynlluniau Camlas Gotha a gafodd ei hagor yn 1832.

Er bod llawer o bobl yn ymwybodol mai Telford oedd yn gyfrifol am y ffordd o Lundain i Gaergybi, yn ogystal a phontydd crog Menai a Chonwy, nid yw cymaint yn ymwybodol iddo hefyd syrfeo oddeutu 450 milltir o ffyrdd yn Ne Cymru ar ran y lywodraeth rhwng 1823 a 1825.

Wedi iddo edrych ar wahanol lwybrau ar gyfer ffordd newydd rhwng yr Amwythig a Chaergybi, penodwyd Telford i'w hadeiladu yn 1815. Yr oedd yn dasg sylweddol gyda nifer fawr o wahanol adeiladweithiau yn cynnwys Pont Waterloo ym Metws-y-Coed (1816), Pont-y-Borth (1826), a chob Stanley ger Caergybi. Estynnwyd ei benodiad i gynnwys ffordd o Gaer i Fangor, gwaith sy'n cynnwys adeiladu ffyrdd o gwmpas Penmaenmawr a Phenmaenbach, pont grog arall gyda chob hir dros Aton Conwy (1826) a gwelliannau i'r llwybr rhwng Llanelwy a Threffynnon (yn cynnwys Rhuallt!)

Yn 1820 derbyniodd y gwahoddiad i fod yn Lywydd cyntaf Sefydliad y Peirianwyr Sifil, a chadwodd y swydd hyd ei farwolaeth yn Llundain yn 1834. Mae ei ffrind Robert Southey, y bardd llawryfog, wedi ei alw'n "Colossus of Roads" a "Pontifex Maximus", sydd yn arwydd o'i statws yn y gymdeithas.

Yn 2007, cynhaliodd Sefydliad Peirianwyr Sifil Cymru ar y cyd gyda Ymddiriedolaeth Treftadaeth Cymunedol Porthaethwy a chyda chefnogaeth amryw o gyrff eraill gynhadledd i goff谩u Telford ym Mhrifysgol Bangor.

Roedd yn cynnwys cyfle i weld casgliad o arteffactau Pont y Borth ynghyd a rhai pethau o Bont Britannia.

Cynhaliodd y sefydliad hefyd deyrnged deithiol i Thomas Telford gan ymweld 芒 rhai o'i weithiau mwyaf sylweddol e.e. Pontcysyllte, Pont Grog Conwy, Pont y Borth a Morglawdd Stanley.

Bob Daimond


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy