大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Caernarfon
Cofi Opera Cofi Opera
Dydy'r byd opera ddim y peth cyntaf mae rhywun yn ei gysylltu 芒 Ysgubor Goch, un o stadau mwyaf difreintiedig gogledd Cymru.
Ond er gwaethaf yr argraff ei fod yn fyd uchel-ael sy'n apelio at griw dethol o bobl, mae cerddoriaeth operatig - ynghyd 芒 seiniau difyr eraill - wedi bod yn creu cyffro ar strydoedd y st芒d yn Nghaernarfon.

A phan ddaeth y ddau fyd at ei gilydd, roedd camer芒u cyfres ddogfen 大象传媒 Cymru, O Flaen Dy Lygaid yno i gofnodi'r cynllun mentrus.

Y syniad tu 么l i Cofi Opera oedd creu, cynhyrchu a pherfformio opera unigryw yn Sgubor Goch, gydag ieuenctid y st芒d yn perfformio ochr yn ochr 芒 chantorion opera proffesiynol.

Rapio yn Ysgubor Goch Gobaith rhai y tu 么l i'r cynllun, sy'n rhan o brosiect Cofis Bach ac wedi ei leoli yng nghanolfan Noddfa, oedd y byddai creu brwdfrydedd a chydweithio yn arwain at falchder a fyddai'n mynd y tu hwnt i'r profiad ar y llwyfan.

"Mae gynnyn nhw frwydr anferthol ar eu dwylo," meddai Manon Llwyd, cydlynydd artistig Cofis Bach am blant y st芒d. "Maen nhw yn cael eu geni i sefyllfa o frwydr. Does 'na neb yn cwffio drostyn nhw, jest luck of the draw mewn ffordd, lle mae rhywun yn cael ei eni'n 'de... ac mae hwnna'n ddychrynllyd, bod eich hanes chi yn mynd o'ch blaen chi mewn ffordd, oherwydd lle 'dach chi'n byw."

Bu'r bardd Meirion MacIntyre Hughes, sy'n Gofi ei hun, yn cydweithio gyda'r plant i greu geiriau'r opera.Owain Llwyd yn hel synnau

"Am ddwy awr oedd o fel mynd i mewn i focs o d芒n gwyllt ac mae rhywun yn taflu matsien i'w ganol o," meddai Meirion. "Ac mae'r t芒n gwyllt yn mynd i bob man am ddwy awr gyfan."

Y cyfansoddwr Owain Llwyd o Gorwen sy'n gyfrifol am gerddoriaeth yr opera, ac mae i'w weld yn tynnu ysbrydoliaeth o dref Caernarfon ei hun, yn recordio'r gwylanod, cymeriadau lleol yn siarad iaith y Cofi wrth y bar, a'r adeiladu sy'n mynd rhagddo yn Noc Fictoria.

Un arall allweddol yn y cynhyrchiad oedd y rapiwr Ed Holden, un sy'n gwneud ei fywoliaeth allan o 'beatbocsio', ac roedd o'n ysbrydoliaeth i rai o'r hogiau lleol berfformio fel rapwyr yn yr opera.

"Dwi'n 'neud bywoliaeth allan o neud s诺n hefo ceg fi," meddai. "Roeddan nhw (y plant) fatha 'No way' ac oedd o'n agor eu meddylia nhw'n hollol, fatha 'hang on a minute' dan i'm angen gwisgo siwt ac ista o flaen bwrdd yn sgwennu..."

Jason yn rapio Ond daw noson y cynhyrchiad, a phawb ar binnau i gael llwyddiant. I wneud pethau'n waeth mae Jason '84', fel y caiff ei adnabod, un o'r rapwyr sy'n ganolog i'r perfformiad, wedi cael ei arestio'r noson gynt. Ddaw pethau at ei gilydd i Opera Cofi?

Gallwch weld O Flaen dy Lygaid: Cofi Opera nos Fawrth, 29 Ebrill am 9.00pm ar S4C gydag ailddarllediad nos Sadwrn, 3 Mai, 9.15pm ar S4C.

  • Adroddiad Papur Dre ar yr opera


  • Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Llyfrau


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy