Bydd honno'n cael ei darlledu nos Fawrth, 29 Ebrill am 9 o'r gloch ar S4C. Cofiwch wylio!
Roedd yn brofiad bythgofiadwy i bawb oedd yn rhan o'r prosiect, fel y dywedodd Llinos Mai Morris, Gweithiwr Plant a Ieuenctid Eglwys Noddfa:
Mae'r holl brosiect wedi fy nghyffroi; gweld y plant ar eu gliniau yn taflu geiriau at Mei Mac ac yntau yn eu rhoi ar bapur i greu pennill neu ddau; gweld rhai o'r plant yn dysgu ac yn cyfansoddi alawon hefo Owain Llwyd; gweld y set yn dod yn fyw wrth i gr诺p bach brwdfrydig lunio, creu a pheintio dan arweiniad Caroline Roberts, a chlywed Siwan Llynor yn canmol doniau'r plant wrth iddi ddod a'r holl beth at ei gilydd. Roedd yn berfformiad a oedd wedi'i greu a'i berfformio gan y plant ar eu tir eu hunain! Pleser yw cael dweud bod Eglwys Noddfa yn rhan allweddol o'r gwaith cyffrous hwn - gwaith sydd yn ateb anghenion y st芒d ac yn rhoi cyfleon bythgofiadwy i blant, pobl ifanc a'r oedolion sy'n gwirfoddoli!
Ac mae'n amlwg bod pawb wedi cael coblyn o hwyl!
Mae pawb yn Noddfa'n ddiolchgar iawn i bawb am eu hymroddiad a'u help - y gweithwyr, y gwirfoddolwyr, y rhieni a phawb a ddaeth yno i weld i sioe, heb anghofio Manon Llwyd, Cydlynydd Cofis Bach, am ei holl waith caled ac wrth gwrs - diolch mawr i'r plant. Llongyfarchiadau blant!
|