Aberaeron
topTref weddol newydd yw Aberaeron, wedi cael caniat芒d i'w chodi yn 1807. Elizabeth Evans sy'n olrhain hanes y dref.
Aberaeron, Alban a'r Gwynneiaid
Cymwynaswr pennaf Aberaeron oedd y Parchedig Alban Thomas, yn enedigol o Gastell Newydd Emlyn. Cafodd ef a'i wraig, Susannah Maria, (merch Henry Jones, Tyglyn yng Nghiliau Aeron) holl gyfoeth (ac yr oedd yn sylweddol iawn) Lewis Gwynne, a fu'n byw ym Mynachdy, plasdy ym Mhennant.
Claddwyd Lewis Gwynne ym mynwent Llanbadarn Trefeglwys ym 1805. Mae cofeb iddo yn yr eglwys ac arno mae'r geiriau canlynol: "Roedd yn ddyn na welir mo'i debyg byth mwy." Am i Alban Thomas briodi merch Henry Jones, rhaid iddo oedd cynnwys yr enw Jones, ac wedi etifeddu holl gyfoeth Lewis Gwynne yn ogystal. Felly wrth yr enw Alban Thomas Jones Gwynne y cai ei adnabod.
脗'i holl gyfoeth, penderfynodd wneud harbwr yn Aberaeron. Gynt, yn Aberarth oedd yr harbwr ac yno y daeth y cerrig o Fryste i godi'r Fynachlog yn Ystrad Fflur. Penderfynodd fod yn rhaid newid cwrs yr afon. Roedd yn arfer llifo drwy Stryd y D诺r i gyfeiriad Castell Cadwgan a oedd ar lan y m么r. Mae'r m么r wedi hawlio'r castell ers blynyddoedd bellach, nid oes yno mwyach ond yr olion ac ambell dwmpath o bridd.
Cyn hir roedd gan Alban Thomas Jones Gwynne adeiladwyr i godi waliau i ffurfio'r harbwr a seiri a masiyred i godi tai a fyddai'n gartrefi i'r gweithwyr.
Mae Aberaeron wedi parchu enwau'r arloeswyr, mae yna westy o'r enw Mynachdy, Sgw芒r Alban, Stryd Gwynne a Stryd Tyglyn. Cawn ein hatgoffa o'r cyfnod, Regent Street, Stryd y Gaer, Tafarndy Buddug a thafarndy Cadwgan. Mae llawer bachgen wedi cael yr enw Alban hefyd.
Cynllun John Nash
Cynlluniwyd Aberaeron gyda help John Nash, yr athrylith o bensaer. Mae stryd lydan yn pasio drwy'r dre, er fod y Cyngor wedi culhau'r ffordd - er mwyn diogelwch meddent hwy.
Mae'r dref wedi ei chynllunio'n ofalus, t欧 mawr ar bob pen y stryd a thai llai eu maint yn y canol, yn clymu'r ddeupen ynghyd.
Bu Alban Thomas Jones Gwynne farw'n 68 oed, a'i gladdu ym mynwent Llanddewi Aberarth. Ar ei garreg fedd mae'r deyrnged hyfryd yma, "What he was, time will tell."
Roedd y mynachod yn arfer dod i gasglu pysgod o'r goredi sydd o hyd i'w gweld ar y traeth. Roedd y mynachod yn arfer bwyta pysgod bob dydd Gwener.
gan Elizabeth Evans
Mwy
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.