Dyffryn Aeron
topMae dalgylch Dyffryn Aeron yn ymestyn o Aberaeron i Silian ger Llanbedr Pont Steffan, pellter o ddeg milltir gyda'r pentrefi cyfagos, Ciliau Aeron, Felinfach, ar lannau'r Aeron, Aberarth, Pennant, Nebo, Cross Inn a Bethania i'r gogledd, a Ffosyffin, Llwyncelyn, Dihewyd a Chribyn i'r de o'r afon.
Mae dyffryn Aeron yn nodedig am ei phlasau. Mae Llannerch Aeron ergyd carreg o dref Aberaeron. Llewelyn Parry oedd y cyntaf i brynu'r Plasdy yn y flwyddyn 1630 oddi wrth deulu Gwynne o Mynachdy. Bu'r Parries yn byw yma hyd 1746 ac yna daeth y Lewisiaid.
Buont yma hyd ddyddiau John Ponsonby Lewis a fu farw yn 1989 gan drosglwyddo'r st芒d i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Codwyd y plasdy presennol ym 1794. John Nash oedd y pensaer ac ef a gynlluniodd yr eglwys hefyd - eglwys Llannerchaeron sydd gerllaw. Roedd yn blasdy hardd, ond cafodd ei esgeuluso yn nyddiau Ponsonby Lewis.
Erbyn heddiw mae yn 么l yn ei holl ogoniant, y brychau wedi eu dileu a'r tyrfaoedd yn tyrru yno i weld ac i werthfawrogi'r fath ysblander ac i ryfeddu ar allu John Nash i wneud defnydd o'r golygfeydd a geir o bobtu.
Ychydig yn uwch i fyny'r dyffryn mae yna blasdy arall, y Las Gelli, oedd ei enw gwreiddiol, ond cafodd enw newydd Seisnig - Green Grove. Cafodd ei godi yn 1666, ac mae pobol wedi bod yn byw ynddo drwy'r canrifoedd hyd yn ddiweddar. Daeth Edward Vaughan a'i fam Dorothy yma o'r Trawscoed yn 1794.
Roedd asiant Trawscoed yn berchen ar Braenog, a'r ddwy fam yn ddwy chwaer. Pan fu David Lloyd yr asiant farw, ewyllysiodd Braenog i John, ail fab Edward Vaughan. Daeth y ddwy st芒d yn un uned, ac fe gyfeiriwyd at y Vaughaniaid fel aelodau o Greengrove a'r Brynog. Ystyr y Braenog mae'n debyg yw Brain. Roedd y teulu yma yn barchus yn yr ardal - yn ffermwyr!
Fe gofiwn fel yr unionodd Capten Vaughan yr afon yn 1882. Dyma'r englyn a ysgrifennodd Cerngoch i'r Capten:
"Torrodd do, fyrdd o gwterion - er arllwys
D诺r oerllyd i'r afon,
Unionodd a harddwch hon -
Glyn arall yw glyn Aeron."
Aeth etifedd y Braenog i amddiffyn ei wlad yn ystod rhyfel y Crimea. Cafodd ei ladd yn Sevastopol ar Fehefin 18fed, 1855. Mae coflech iddo ar fur eglwys Ystrad - coflech arbennig o hardd.
Arni ceir - "Buchedd dda a gaiff adfer ei ddyddiau, ond enw da a bery byth." Arni hefyd y mae arwyddeiriau y St芒d - arwyddeiriau y Trawscoed "Non Reverter invitus".
Cyfansoddodd Cerngoch, y bardd gwlad a drigai ym Mhenbryn Mawr, gerdd goffa i John Crosby Vaughan:
"Os wyf wedi digio gym'dogaeth
Wrth ganu mewn hiraeth fel hyn:
Dwy'n meddu ar eiriau'n rhagori
Maddeuwch i Siaci Penbryn."
Teimlai yr hen fardd yn chwithig am glodfori un o'r "byddigions".
Yn 1921 aeth Herbert Vaughan i anawsterau, oherwydd effeithiau'r rhyfel a bu rhaid gwerthu'r st芒d. Pwy brynodd Greengrove? Neb llai na Simon Davies, ac fe brynodd ei dri brawd, Dafydd, William a Timothy, y Braenog.
Roedd Simon Davies yn wir gymwynaswr. Pan oedd s么n am godi Hufenfa yn y dyffryn, fe ddaeth ef i'r adwy. Rhoddodd ddeuddeg erw o'r tir mwyaf ffrwythlon ger yr Aeron. Agorwyd yr hufenfa yn 1951. Yn ddiweddarach rhoddodd erw o dir am ddim i godi'r Coleg. Agorwyd ef yn 1955.
Yn ddiweddarach cafwyd ganddo hen weithdy a ddefnyddid yn ystod y rhyfel i storio peiriannau ar gyfer y ffermwyr - peiriant i godi tatws, peiriant i ddyrnu'r 欧d ac erydr a fyddai'n help i'r ffermwyr aredig eu cwota. Roedd yr hen weithdy wedi gweld dyddiau gwell ond roedd y sail yn berffaith. Mae'r sail heddiw yn sail i Theatr Felinfach a godwyd ac a agorwyd yn 1972.
Abermeurig
Plasdy arall yn y dyffryn yw Abermeurig. Codwyd ef gan John Edwards, perthynas i Daniel Rowlands, Llangeitho. Mynnodd fod ei blasdy yn wynebu'r Gogledd tuag at Llangeitho. Anfynych iawn y ceir plasdy yn wynebu'r Gogledd. Bu'r Ymneilltuwyr cynharaf 'n么l yn 1634 o dan gyfarwyddyd Rice Powell, ficer Llanbedr Pont Steffan, yn addoli yn Abermeurig. Ni chytunent hwy 芒 rheolau'r Eglwys. Roeddent yn addoli mewn hen ysgubor ar gl么s y plasdy. Cawsant yn ddiweddarach lain o dir i godi capel yn Abermeurig ac agorwyd ef yn 1699. Roedd Mrs Rogers Lewis yn gresynu fod yr hen sgubor wedi ei datgymalu.
Digwyddodd un amgylchiad trist iawn i deulu Abermeurig. Roedd y meddyg John Rogers a'i was wedi mynd ar gefnau eu ceffylau i weld claf yn ardal Llanrhystud. Pan oeddent yn nesu at Talsarn fe ddaeth y glaw trwm, ac fe dorrodd yr afon Afallon dros ei glannau nes oedd pentref bach Talsarn dan dd诺r. Collodd y ddau geffyl eu traed a llithro i'r d诺r a chipiwyd hwy ymaith gan nerth y llif. Y bore trannoeth cafwyd hyd i'w cyrff yn farw yn yr Aeron. Claddwyd hwy ym mynwent Nantcwnlle.
Mae yma blasdy arall - Llanll欧r. Roedd yma leiandy 芒 deunaw o leianod cyn i Harri'r Wythfed ddod i ysbeilio ac i ladrata'r holl drysorau y lleiandy a'r abatai. Yma yn ddiweddarach roedd Mr John Hext Lewes, Arglwydd Raglaw y Sir. Ef oedd yn croesawu teulu Brenhinol pan oeddent yn ymweld 芒 Cheredigion. Yr oedd yn ffermwr llwyddiannus iawn yn perchen 800 acer o dir breision y dyffryn.
Roedd pobl yr ardal yn cael digonedd o waith - y bechgyn yn gweithio ar y fferm a'r merched yn cario allan ddyletswyddau y Plasdy. Bu Mr Hext Lewes farw yn 1995 a Mrs Hext Lewes yn 1997. Gosodwyd ffenestr liw yn Eglwys Trefilan er cof amdanynt.
Rheilffordd
Roedd rheilffordd yn arfer rhedeg drwy'r ardal o Silian i Aberaeron. Cafwyd hawl i'w lleoli ym mis Hydref 1906 a thorrwyd y dywarchen gyntaf ar dir Coedparc ar y 10fed o Hydref 1908. Cwblhawyd y gwaith wedi gorfod adeiladu nifer o bontydd 芒 "halts" - 'halt' yn Silian, Blaenplwyf, Talsarn, Felinfach, Ystrad, Ciliau Aeron a'r orsaf ar ddiwedd y daith yn Aberaeron. Costiodd, mae'n debyg, 拢80,000. Agorwyd y rheilffordd yn 1911 gan Mrs Gwynne, Mynachdy. Daeth i ben ei gyrfa chwap iawn. Gorffennodd gario pobol yn 1951, a nwyddau yn 1973. Fe ddaeth Mr Beeching heibio!
Cysylltir y rheilffordd yn nyddiau ei hanterth gyda chymeriad a adwaenir fel "Siors". George Saunders oedd hwn, dyn a fu'n gweithio yng ngwaith d诺r Elan ac a ddaeth i weithio ar y rheilffordd yn Felinfach pan ddaeth y gwaith d诺r i ben. Nid oedd iddo gartref parhaol a deuai bob nos i letya yn nhafarn y Braenog Arms. Fe'i cafwyd ar y 23ain o Ionawr 1910 yn farw. Ysgrifennodd Crwys delyneg hyfryd yn s么n am ei farw disymwth:
"Ond nid oes gell ac nid yw Siors
Yng nghwr y rhandir erbyn hyn
Aeth yntau yn ei dro drwy'r glyn
i huno yn Llan yr Ystrad
A'i goffa'n wyrdd ym mhorfa'r ffridd
Hyd ddydd yr Atgyfodiad."
I ardal Temple Bar y daeth yr Arglwydd Carrington o Lundain a phrynu nifer o ffermydd yn yr ardal. Daeth y Barwn Charles Robert (Carrington) 芒 nifer o enwau Seisnig yn ei sgil. Galwodd y nant fach sy'n llifo i'r Aeron yn Piccadilly a'r bont sy'n ei chroesi yn Bont Piccadilly. Rhoddodd enw Aldergate ar un o'r tai a Carrington Villa a Cae Carrington ar un o'r caeau a geir yn fferm y Braenog. Yr oedd yn feistr caled a chwynai'r tenantiaid am y "shabby treatment" a gaent ganddo. Er hynny, bu'n garedig wrth yr Undodiaid oedd wedi sefydlu yn yr ardal.
Undodiaeth yn y dyffryn
David Jenkin Rees oedd wedi cychwyn Undodiaeth yn y dyffryn. Yr oedd ef yn byw yn Lloyd Jack - Llwyd Siac oedd yr enw gwreiddiol - ac wedi cychwyn ysgol yno. Pan fu farw David Jenkin Rees nid oedd gan yr Undodiaid gartref. Dyma ardal Y Smotyn Du - term a roddodd y Methodistiaid ar yr enwad. Anodd oedd cael unlle i godi capel. Ond bu Carrington yn garedig iawn, fe ddywedodd ef : "You can build anywhere on my land." Ac felly cafwyd tir ar fferm Rhydgwin - hanner cyfer i godi capel a Th欧 Capel. Gosodwyd y garreg sylfaen ar y 9fed o Dachwedd 1847 ac agorwyd y Capel ar y 27ain o Fehefin 1848 a'i alw yn Rhydygwin. Gwerthoedd Carrington ei stad yn 1869 ac aeth yn 么l i Lundain.
Cerngoch
Hen fardd gwlad a oedd yn byw yn Mhenbryn Mawr oedd Cerngoch - John Jenkins a rhoi iddo ei enw bedydd. Cafodd ei eni ym Mlaenplwyf yn 1820 a marw yn 1894 ac fe ail-wampiwyd ei gerddi y pryd hwnnw. Ceir yn awr "Cerddi Cerngoch" wedi ei ail drefnu gan y Doctor Islwyn Edwards. Claddwyd ef ym mynwent Rhydygwin ac ar y garreg mae'r cwpled yma:
"Yn hir tra d诺r yn Aeron,
Ei enw fydd yn fyw yng Ngheredigion."
Cofiwn am ei englyn, a geir ar lawer carreg fedd yn ein mynwentydd:
"Iach hwyliodd i ddychwelyd - ond ofer
Fu dyfais celfyddyd,
Y m么r wnaeth ei gymeryd
Ei enw gawn - dyna'i gyd."
Rwy'n hoffi'r pennill yma, roedd Cerngoch yn mynd tua Soar y Mynydd a dyma a ddywedodd:
"Ar lannau afon Camddwr,
Mae temel i'n Creawdwr,
Pwy bynnag ddaw a thros fath dir
Sy'n brawf o wir addolwr."
gan Elizabeth Evans
Ysgrifennwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar gyfer gwefan 大象传媒 Lleol tua 2003.
Mwy
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.