大象传媒

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Castell Dolbadarn

11 Chwefror 2009

Adeiladwyd Castell Dolbadarn gan Llywelyn ap Iorwerth rywdro cyn 1230 ar ben bryncyn uwchben Llyn Padarn ger Llanberis, yng nghysgodion mawreddog yr Wyddfa ac Elidir Fawr.

Roedd lleoliad strategol Castell Dolbadarn yn golygu fod ei warchodlu yn medru gwrthsefyll unrhyw symudiad drwy Fwlch Peris, un o'r tri bwlch trwy gadernid Eryri.

Ychydig o adfeilion y castell sydd yn weddill heddiw, ond mae'r t诺r yn dal i sefyll hyd at 50 troedfedd, ac mae ei furiau, sydd yn wyth troedfedd o drwch, yn dystiolaeth i'i gadernid yn y gorffennol.

Wedi i Ddafydd ap Llywelyn farw yn 124y, bu gwrthdaro teuluol 诺yrion Llywelyn Fawr, sef Dafydd ap Gruffydd, Owain ap Gruffydd (Owain Goch), a Llywelyn ap Gruffydd. Ochrodd Owain a Dafydd gyda'u gilydd yn erbyn Llywelyn, a bu ymladd rhyngddynt yn Eifionydd. sef Brwydr Bryn Derwin.

Bu Llywelyn yn fuddugol charcharodd Owain yng Nghastell Dolbadarn am dros 20 mlynedd. Mae adroddiadau cymysg am yr hyn ddigwyddodd i Dafydd yn sgil yr ymladd, ond yn 么l Brut y Tywysogion, 'cyn diwedd yr awr roedd Owain Goch wedi ei ddal yn garcharor a Dafydd wedi ffoi, wedi i lawer o'i ddynion gael eu lladd.'

Does wybod pam fod Llywelyn wedi dangos llawer mwy o faddeuant tuag at Dafydd nag a wnaeth tuag at Owain, ond yn ystod rhyfeloedd rhwng Llywelyn ac Edward I, credir i gastell Dolbadarn fod ym meddiant Dafydd.

Wedi marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd yn Rhagfyr 1282, ceisiodd ei frawd Dafydd gynnal rhyw lun o annibyniaeth yng Ngwynedd, ac yma fe arwyddodd ei ddogfennau olaf. Ond yn araf fe gaeodd ei elynion Seisnig o'i gwmpas; ym Mehefin 1283 fe ddalwyd 'gan ei w欧r ei hun' a'i gludo at Edward yn Rhuddlan ac wedyn i Amwythig i'w ddienyddio'n erchyll.

Nid oedd Dolbadarn o unrhyw werth i Edward; fe gludwyd trawstiau o'r adeiladau i'w defnyddio yng nghastell newydd Caernarfon. Yn ffodus ni chafodd y t诺r mawr crwn, un o'r enghreifftiau gorau o adeiladwaith gan dywysogion Gwynedd, ei ddinistrio. Yn lle bod yn amddiffynfa, daeth Dolbadarn yn un o hoff destunau arlunwyr y mudiad Rhamantaidd; mae'n destun o gampweithiau mawr J.M.W. Turner, a gynhwysodd gyfeiriad at garchariad Owain Goch yn y darlun.


G锚m y Gof

G锚m y Gof

Chwarae

Gweithia dy ffordd trwy'r pedair lefel i ddod yn feistr yng ngefail y castell.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.