大象传媒

Castell Dolwyddelan 漏 www.castlewales.com

Cestyll y Cymry

28 Ionawr 2009

Erbyn 1100 hefyd roedd y Cymry yn dechrau arbrofi gyda chestyll. Roeddynt wedi dysgu ymosod ar gestyll y mewnfudwyr ac yn aml yn llwyddo i'w cipio, ond gwell wedyn oedd dinistrio'r adeiladau ac encilio na cheisio eu cadw.

Ond gyda'r gwrthwynebiad cenedlaethol yn ymgryfhau, codwyd cestyll tomen-a-beili o Geredigion trwy'r canolbarth i ffiniau dwyreiniol Gwynedd wrth i Owain Gwynedd adennill tir. Byddai arglwyddi Cymreig yng Ngwent a Blaenau Morgannwg hefyd yn llwyddo i gadw peth annibyniaeth, a chodi amddiffynfeydd.

Eto trwy gydol y cyfnod, mae'r tystiolaeth yn dangos ei fod yn well gan y tywysogion eu llysoedd na'u cestyll. Efelychiadau oedd y rheiny, er mwyn dangos penarglwyddiaeth, ond nid cartrefi parhaol.

Cyn 1200 roedd Owain Gwynedd a'i feibion yn y gogledd a Rhys ap Gruffudd - yr Arglwydd Rhys - yn y de wedi dechrau codi neu ailadeiladu cestyll o gerrig, megis Aberteifi, Dinefwr a Charreg Cennen. Ym Mhowys bu'r tywysogion yn codi cestyll megis Tafolwern, Dinas Br芒n a Chastell Powys.

Yn ystod oes y ddau Lywelyn yn y 13ed ganrif bu'r ddau dywysog mawr hyn yn cryfhau ac yn adeiladu nifer o gestyll: Dolbadarn, Carndochan, Dolwyddelan, Degannwy, Dolforwyn, y Bere, Ewloe ac eraill. Ond nid oedd ganddynt yr adnoddau ariannol i greu cestyll anferth ar raddfa eiddo'r barwniaid a brenin Lloegr, ac erbyn 1282 roedd nifer o'r Cymry'n cwyno oherwydd trethi Llywelyn ap Gruffudd.


G锚m y Gof

G锚m y Gof

Chwarae

Gweithia dy ffordd trwy'r pedair lefel i ddod yn feistr yng ngefail y castell.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.