大象传媒

Arwisgo Charles

Ceisio cynnal cytbwysedd newyddiadurol

19 Mehefin 2009

Doedd hi ddim yn hawdd cynnal cytbwysedd newyddiadurol mewn cyfnod o'r fath. Ym marn George Thomas, doedd dim y fath beth 芒 gwrthrychedd i'w gael yn y wasg Gymraeg:

The Welsh language press was both bitter and malicious. Even the so-called religious press became political, and included regular personal attacks on me... there were some people in nonconformist Wales who had replaced the worship of God Almighty with worship of the language.

Mae'n amlwg nad oedd Mr Thomas yn darllen yr Herald Cymraeg, oedd mor deyrngar i'r frenhiniaeth ag unrhyw gyhoeddiad Saesneg. Bob wythnos yn ddi-ffael byddai papur Caernarfon yn rhoi prif sylw'r dudalen 么l - dim ond hysbysebion oedd ar y dudalen flaen yn y cyfnod hwnnw - i ryw agwedd o'r paratoadau. Cyhoeddwyd fod y Cyngor Tref wedi penderfynu gwario 拢14,300 ar harddu'r Maes ar gyfer y diwrnod mawr, yn ogystal 芒 chyfrannu 拢1,700 tuag at lifoleuo'r castell. "Pa wisg fydd gan y Tywysog?" oedd prif bennawd rhifyn arall, a chafwyd wythnosau o gwynion am raglen deledu 24 Hours, a gyhuddid o "geisio rhoi ar ddeall bod y Cymry ffordd yma yn erbyn yr Arwisgiad". Yn 么l un cynghorydd doedd neb o'r dref wedi cael datgan barn ar y rhaglen, tra bod gwrthdystwyr wedi eu llusgo o flaen y camera "o Drefor, Nefyn, a hyd yn oed o Sir F么n".

Doedd y gwrthwynebiad i'r achlysur ddim yn cael unrhyw sylw ar dudalennau'r Herald, hyd yn oed pan ddaeth mil o bobl i rali wrth-arwisgo yng Nghaernarfon ar y dydd G诺yl Dewi blaenorol. Gofid mawr i'r papur oedd bod 'Carlo', c芒n ddychan Dafydd Iwan, wedi disodli'r Amen Corner, Englebert Humperdinck a Hogia'r Wyddfa i gyrraedd rhif un yn siart recordiau siopau Caernarfon o bob man. "Record na ddylai neb ei phrynu" oedd pennawd y papur, gan sicrhau y byddai'n aros ar y brig am rai wythnosau.

Arwisgiad Tywysog Cymru
Arwisgiad Tywysog Cymru

Yn groes i ddehongliad George Thomas o'r sefyllfa, roedd Y Cymro hefyd wedi gwneud ymgais i gynnal cytbwysedd. Ar ddiwedd Chwefror '69, yn union ar 么l i mi gael addewid o swydd ar y papur, rhoddwyd y dudalen flaen i gyd i stori a ysgrifennwyd yn arbennig gan Francis Jones, Herodr Arbennig Cymru, gyda'r pennawd TYWYSOG O DRAS LLYWELYN - DAW HEFYD O LINACH GLYND糯R.

Rhyfedd meddwl," meddai'r g诺r a fu'n hel achau, "bod un o ddisgynyddion Owain Glynd诺r yn eistedd ar orsedd Prydain Fawr ac mai ei mab a fydd yn cael ei arwisgo yng Nghaernarfon yr haf nesaf... Drwy ei linach mae'r Tywysog Charles yn gystal Cymru a'r un ohonom. Pan ddaw i Gymru daw o wlad ei dadau.

Roedd cael yr Herodr ei hun i gyfrannu i'r Cymro yn amlwg yn arf yn y rhyfel bropaganda.

Y Cymro yn camu oddi ar y ffens.

Yr hyn a wnaeth i'r Cymro, yng ngolwg llawer o'i ddarllenwyr, gamu oddi ar y ffens i gorlan y gwrthwynebwyr oedd yr ymateb i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Aberystwyth y flwyddyn honno. Roedd yr Urdd fel sawl mudiad arall wedi ei hollti gan yr Arwisgo a sut i ymateb iddo. Penderfynodd Cyngor y mudiad i ddechrau y bydden nhw'n anfon cynrychiolwyr i Gaernarfon ar y diwrnod pe deuai gwahoddiad, ond newidiwyd y penderfyniad wedi i ddau aelod o'r Cyngor ymddiswyddo gydag eraill yn bygwth eu dilyn. Ond cytunwyd, fel cyfaddawd, y byddai'r Tywysog yn cael gwahoddiad i ymuno yn rhai o weithgareddau'r mudiad. Roedd y gweithgareddau hynny, er na chyhoeddwyd y peth tan y funud olaf, yn cynnwys ymddangosiad ar lwyfan yr Eisteddfod yn ystod ei arhosiad yn Aberystwyth.

Honno, mae'n debyg, oedd yr eisteddfod fwyaf cythryblus yn hanes y mudiad, gyda'r Tywysog yn annerch yn Gymraeg o'r llwyfan ar y prynhawn Sadwrn, a chant neu ragor o bobl yn codi a cherdded allan o'r pafiliwn wrth iddo gyrraedd y llwyfan. Dyna pryd y dywedodd yr arweinydd, John Garnon, "Mae'n dda gen i weld fod llawer mwy wedi aros i mewn nag sydd wedi mynd allan." Aeth y geiriau hynny, a chymeradwyaeth y rhai oedd ar 么l, at galon Llion Griffiths, golygydd Y Cymro. Y canlyniad oedd colofn olygyddol yn y rhifyn nesaf yn llongyfarch y Tywysog am y modd y traddododd ei araith, ond hefyd yn canmol y protestwyr:

"Bu'n brotest heddychlon ac effeithiol a hynny gan bobl a wyddai y derbynient sarhad y mwyafrif... Ond safasant dros egwyddor a hwy oedd arwyr mwyaf dydd Sadwrn".

Roedd y geiriau yn d芒n ar groen R E Griffith, pennaeth yr Urdd, ac mae gen i gof am ddadl hir a thanbaid rhwng Llion Griffiths ac yntau ar y ff么n wedi i'r papur gyrraedd y siopau.


Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Eisteddfod

Ceidwad y Cledd, Robin Mc Bryde

Canrif o Brifwyl

Canrif o hanes Cymru a'r byd drwy lygaid yr Eisteddfod Genedlaethol.

Sain a Fideo

Gwyliwch a gwrandewch ar y gorau o archif 大象传媒 Cymru.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.