Mae William Morgan yn un o gewri hanes Cymru a'i gyfraniad i oroesiad yr iaith Gymraeg yn amhrisiadwy.
Mae ei gartref, T欧 Mawr Wybrnant ym Mhenmachno, bellach yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Cyn iddo gael ei ordeinio yn yr Eglwys, bu'n astudio yng Nghaergrawnt.
Ganwyd William Morgan yn 1545. Urddwyd ef yn offeiriad yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys, ac yna yn Archesgob yn Llanelwy yn 1601. Ond, heb amheuaeth, ei gyfraniad pennaf oedd ei waith mawr yn cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg. Cwblhaodd y gwaith yn 1588 a hynny ar gais y Frenhines Elizabeth I . O'r diwedd, gallai'r Cymry ddarllen yr Ysgrythurau yn eu hiaith eu hunain am y tro cyntaf a, thrwy hynny, medd llawer, diogelwyd y Gymraeg.
Roedd y Testament Newydd wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg yn barod gan William Salesbury yn 1567, ond rhoddodd cyfieithiad yr Esgob Morgan ffurf ac orgraff ffurfiol a safonol ysgrifenedig i'r Gymraeg. Mae'n llawn o dermau hynafol, sy'n gwneud y gwahaniaeth rhwng iaith y Beibl ac iaith bob dydd y bobl yn amlwg o'r dechrau.
Newidiodd William Morgan hefyd rai geiriau Cymraeg de Cymru am eiriau Cymraeg y gogledd, fel 'cenllysg' yn lle 'cesair'. Mae'n bosib mai dyma ddechreuodd y syniad bod Cymraeg y gogledd yn rhagori ar Gymraeg y de.
Ond fe roddodd ehangder yr eirfa a barddoniaeth y cyfieithiad iaith aruchel i'r Cymry, yn wahanol iawn i'w brodyr a'u chwiorydd Celtaidd yng Nghernyw, yr Alban ac Iwerddon. Bob Sul, a hynny gyda s锚l bendith frenhinol, fe fyddai cynulleidfaoedd Cymraeg yn clywed Cymraeg urddasol o'r pulpud. Roedd hyn yn gyfraniad aruthrol i sicrhau parhad yr iaith.