Michael D. Jones
Araith a draddodwyd gan Dafydd Tudur yn ystod dathliadau G诺yl y Glaniad 2005 yn Y Bala.
Ar Orffennaf 28, 1865, glaniodd mintai'r Mimosa ar draeth yn New Bay ar arfordir dwyreiniol Patagonia.
Prin y byddai'r ymfudwyr wedi rhagweld yr helyntion oedd i'w wynebu yn y blynyddoedd cynnar hynny, ond er gwaethaf pob caledi, tyfodd yno gymuned ffyniannus o siaradwyr Cymraeg.
Fel y mae nifer ohonom yn gwybod, rwy'n siwr, mae'r iaith a'r diwylliant Cymreig yn rhan amlwg o fywyd cannoedd o ddisgynyddion i'r ymfudwyr o Gymru sy'n byw yn nyffryn Camwy ac wrth odre'r Andes heddiw.
Brwd a theyrngar
Y prif reswm dros ddathlu Gwyl y Glaniad yn nhref Y Bala yw mai yma y trigai Michael D. Jones, y g诺r a ddisgrifiwyd fel 'Tad y Wladfa'.
Argyhoeddwyd Michael D. Jones fod angen sefydlu Gwladfa Gymreig tra'n ymweld 芒'r Taleithiau Unedig ar ddiwedd y 1840au, ac unwaith y cychwynwyd mudiad yng Nghymru er mwyn gweithio at yr amcan hwnnw, bu'n gefnogwr brwd a theyrngar iddo.
Yn wir, cyfrannodd at ei weithgarwch mewn sawl ffordd.
Cyhoeddodd bamffled a llythyrau yn esbonio amcanion y mudiad a bu'n dadlau dros yr achos ar lwyfannau a festrioedd ledled Cymru. Bu'n olygydd ar bapur newydd y mudiad, sef Y Ddraig Goch, a bu'n ceisio canfod ffyrdd o godi arian i ariannu'r prosiect. Ond yn ei fethiant i godi'r arian hwnnw y gwnaeth Michael D. Jones ei gyfraniad pennaf i'r mudiad. Ar ddiwedd 1862, talodd gyfran o'r costau i anfon Lewis Jones a Love Jones-Parry i dde America i archwilio lleoliadau posibl ar gyfer y Wladfa.
A phan wrthodwyd eu telerau hwy gan Gyngres Ariannin yn haf 1863, cyfrannodd Michael D Jones 拢100 i anfon trafnoddwr Llywodraeth Ariannin yn Lerpwl i Buenos Aires yn y gobaith y gallai ail-gychwyn y trafodaethau.
Gwariant annisgwyl
Er hynny, bychan oedd y cyfraniadau hyn i'r mudiad o'u cymharu 芒 gwariant annisgwyl Michael D. Jones ar y fenter Wladfaol ym Mai 1865.
Erbyn hynny, yr oeddent wedi cael caniat芒d Llywodraeth Ariannin i wladychu dyffryn y Chupat ym Mhatagonia ond wedi misoedd o deithio drwy Gymru yn hel enwau ar gyfer y fintai gyntaf, daeth y newyddion drwg na fyddai Halton Castle, y llong a oedd i gario'r ymfudwyr cyntaf i'r Wladfa, wedi dychwelyd o'i siwrnai flaenorol erbyn y dyddiad a drefnwyd.
Wrth fod yr ymfudwyr eisoes wedi cyrraedd Lerpwl, bu raid gweithredu ar frys. Talwyd am lety i'r teithwyr tra bo'r arweinwyr yn chwilio am long arall.
Cafwyd llong arall, sef Mimosa, i gludo'r ymfudwyr i Batagonia, ond bu raid disgwyl mis nes fod honno'n addas i gario pobl.
O boced Michael D. Jones y daeth yr arian i dalu yr holl gostau annisgwyl hyn, a chymerodd forgais ar Fodiwan i wneud hynny.
Yn wir, mae'n amheus a fyddai'r Mimosa wedi cychwyn y daith o Lerpwl ar Fai 28, 1865, oni bai am barodrwydd Michael D. Jones a'i wraig i ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwn ar gyn lleied o rybudd.
Aros ar 么l
Dros gyfnod o bron i ddeng-mlynedd ar hugain, bu Michael D. Jones yn hyrwyddo'r Wladfa yn y wasg yng Nghymru.
Ef oedd yr amlycaf o arweinwyr y mudiad a benderfynodd aros ar 么l yng Nghymru ym 1865, ac oherwydd iddo barhau ei weithgarwch dros y Wladfa, daeth ei enw bron yn gyfystyr 芒'r mudiad yn y blynyddoedd canlynol.
Yng ngholofnau papurau fel Baner ac Amserau Cymru, Y Dydd a'r Celt, cyhoeddodd ysgrifau'n s么n am y datblygiadau diweddaraf yn y Wladfa, llythyrau yr oedd wedi eu derbyn naill ai yn bersonol o'r Wladfa neu gan deuluoedd a chyfeillion y bobl a oedd yno, a hysbysebion ar gyfer llongau a oedd i deithio yno.
Wrth gwrs, ni bu'r fenter yn ddiwrthwynebiad ychwaith, ac, yn aml iawn, Michael D. Jones fyddai'r cyntaf i ymateb i'r feirniadaeth.
Ei ddau fab
I orffen, dylid cyfeirio at y cysylltiadau teuluol oedd gan Michael D. Jones 芒 Phatagonia.
Yn ystod y 1880au, aeth ei ddau fab, Llwyd a Mihangel ap Iwan, i'r Wladfa.
Ymfudodd Llwyd yno yn 24 oed ym 1886. Tir-fesurydd ydoedd wrth ei alwedigaeth ac yn fuan wedi ei gyrhaeddiad cafodd waith gyda chwmni oedd yn adeiladu rheilffordd rhwng Porth Madryn a Dyffryn Camwy, ac yn ddiweddarach, bu'n un o arloeswyr Cwm Hyfryd.
Yr oedd Mihangel flwyddyn yn iau na Llwyd, a dilynodd yntau ei frawd i dde America wedi iddo raddio mewn meddygaeth ym Mhrifysgol Caeredin ym 1887.
Dim ond ychydig dros flwyddyn y bu yntau yn y Wladfa cyn symud i dalaith Buenos Aires, ond gwyddom fod ei ddisgynyddion ef yn ogystal 芒 rhai o or-wyrion Llwyd a'u teuluoedd yn byw yn y rhannau o'r wlad a boblogwyd gan y Cymry yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Teimlo'r cysylltiad
Mae llawer mwy i'w ddweud am gysylltiadau Michael D. Jones 芒'r Wladfa, ond gobeithiaf fod y grynodeb hon o'i gyfraniad i'r mudiad wedi caniat谩u i'r rhai ohonom sydd wedi ymgynnull yma yn Y Bala, dros chwe mil o filltiroedd o Batagonia, deimlo'r cysylltiad hanesyddol sy'n bodoli rhwng y dref hon a Phorth Madryn, dyffryn Camwy a godre'r Andes.
Dafydd Tudur