Y Mimosa
Cefndir y llong a'r fordaith fawr.
Y Freuddwyd
Yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymfudodd llu o Gymry i'r Unol Daleithiau ond er eu bod yn well eu byd roedd llawer ohonynt yn pryderu am barhad eu Cymreictod a'u ffordd o fyw.
Tyfodd y syniad, yn enwedig ymysg Cymry Ohio o sefydlu gwladfa gwbl Gymraeg. Hyrwyddwyd y bwriad yn frwd gan Michael D Jones ac eraill a hefyd Cymdeithas Wladychol Lerpwl, a ffurfiwyd yn 1861.
Penderfynwyd sefydlu gwladfa yng ngogledd ddwyrain Patagonia ar lan yr Afon Camwy lle roedd llywodraeth Yr Ariannin yn barod i gynnig tir i'r mewnfydwyr. Yma gallent wireddu eu dymuniad o sefyldu cymdeithas hollol Gymraeg ei naws.
Daeth y mwyafrif o'r ymfydwyr o siroedd Morganwg a Chaerhirfryn, ond ychydig ohonynt oedd yn meddu ar unrhyw brofiad o drin y tir. Ynghyd a theuluoedd yr oedd rhai unigolion dibriod. I bawb ohonynt roedd y fenter yn cynnig dihangfa o galedu bywyd a chyfle i ddiogelu eu iaith a'u traddodiadau.
Y Llong
Adeiladwyd y Mimosa yn 1853 gan Alexander Hall a'i Feibion yn Aberden. Ei pherchnogion oedd Vining & Killey, Lerpwl.
O rhyw 450 tunnell defnyddiwyd hi yn bennaf i gyrchu swgwr o Brasil a the o China. Ond ei mordaith enwocaf oll oedd cludo yr ymfudwyr o Lerpwl i Batgonia yn 1865.
Y Fordaith
Hwyliodd o Lerpwl ar ddydd Sul, Mai 28 1865, a chyrraedd Patagonia ddau fis yn ddiweddarach, mordaith o rhyw 7,000 o filltiroedd.
Ar y llong, oedd wedi ei haddasu i gludo ymfudwyr, roedd 160 Gymru, gan gynwys nifer o blant. Ymysg y criw o 21 roedd tri a fwriadau aros yn y Wladfa. Ynghyd a'r Capten, George Pepperell (25 oed) yr oedd meddyg ifanc, Thomas Greene (21 oed).
Ar y fordaith bu farw pump o blant a ganwyd dau.
Yn ystod y fordaith cafwyd dwy ystorn enbyd, un yn ymyl Sir F么n a llall ar arfordir Yr Ariannin. Daeth y llong i ddiogelwch y Bae ar ddydd Gwener, Gorffenaf 2, lloches sydd heddiw yn dwyn yr enw Porth Madryn.
Y Wladfa
Glanfa ddigon anial a wynebodd yr ymfudwyr, a thaith bellach o rhyw ugain milltir cyn cyrraedd pen y daith, lle heddiw saif tref Rawson, canolfan talaith Chubut. Gyda mewnlifiad pellach o ymfudwyr sefydlwyd trefi Trelew a'r Gaiman yn ddiweddarach.
Yn 1885 sefydlwyd cymuned yn Cwm Hyfryd, wrth draed Yr Andes.
Er caledi y blynyddoedd cynnar, llifogydd erchyll a chynaeafau gwael, ac wedi hir ymdrech llwyddodd Y Wladfa ac erbyn heddiw mae tua 150,000 o bobl o dras Gymreig yn byw ym Mhatagonia.
Sbaeneg yw iaith y mwyafrif o'r boblogaeth ond er hynny mae'r iaith Gymraeg yn dal yn fyw yn y Dyffryn.