13 Tachwedd 2008
Rhan 3: Grahame Davies yn ysgrifennu am y Cymry a ymfudodd i Batagonia yn 1865.
Dianc i'r anialwch
Yn Nyffryn Chubut gwireddodd y gwladfawyr eu breuddwydion, a daeth y dyffryn, ar 么l llawer o waith llaw i'w ddyfrhau, yn glytwaith o ffermydd, pob un 芒 Chymry arnynt, a chafodd eu rhifau eu cynyddu wrth i ragor o ymfudwyr gyrraedd.
Sefydlon nhw gysylltiadau cyfeillgar 芒'r Indiaid lleol, heb ladd na chaethiwo'r un ohonynt. Daeth yr unig wrthdaro ym 1883 pan laddwyd tri Chymro ifanc ar daith hela gan Indiaid a gredai mai aelodau Byddin yr Ariannin oeddynt. Ar y pryd roedd y Fyddin yn canlyn ei pholisi difodi "Concwest yr Anialwch" yn erbyn yr Indiaid.
Chymerodd y Cymry ddim rhan yn y fath bolis茂au, ac yn aml iawn gweithredon nhw fel eiriolwyr ar ran yr Indiaid yn erbyn y llywodraeth yn Buenos Aires.
Canolbwyntion nhw ar adeiladu eu hiwtopia eu hunain: Cymraeg oedd iaith yr ysgolion, eu capeli niferus a'u llywodraeth leol eu hunain, a dyma'r gymuned gyntaf yn y byd i roi'r un hawliau pleidleisio i ddynion a merched.
Wedi tyfu'n rhy fawr i'r tir oedd ar gael yn y dyffryn, roedden nhw wedi sefydlu cangen bellach yn yr Andes.
Ond roedd hi'n rhy dda i bara. Dim ots pa mor ddelfrydyddol oedd breuddwyd y gwladfawyr o ryddid, doedd eu cymuned byth yn mynd i dderbyn ymreolaeth mewn gwirionedd oddi wrth lywodraeth ehangol yr Ariannin, llywodraeth a oedd eisiau atgyfnerthu ei rheolaeth ar yr ardal.
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Mwy
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.