Ìý |
Anabledd
Mae sawl math o anabledd ond ddylai hyn ddim rhwystro neb rhag dysgu na mynd ymlaen i addysg uwch. Mae cwrs i bawb a help ar bob cam. Mae hi'n haws i bobl fynd i sefydliadau addysg uwch y dyddiau yma, ac mae mwy o bobl nag erioed yn penderfynu gwneud hynny. Mae yr un cyfle a'r un amrywiaeth o gyrsiau ar gael i bawb, i gyd yn rhoi'r un manteision i'ch paratoi at fyw yn y byd.
Dyma rai o'r gwahanol gyrsiau sydd ar gael:
- Sgiliau bywyd/sylfaenol – bydd y rhan fwyaf o golegau AB yn cynnig cyrsiau a thystysgrifau sydd wedi'u hanelu at bobl ag anableddau mwy dwys (gan gynnwys o ran darllen, ysgrifennu a rhifedd)
- TGAU, Lefelau A, GNVQ, Cynlluniau Hyfforddi Cenedlaethol, Prentisiaethau Modern
- Gradd, HNC, HND, Cwrs sylfaen
- Cymwysterau ôl-radd
- Dysgu agored ac o bellter
- Hyfforddiant mewn gwaith
- Y Fargen Newydd
TIP
TANBAID!
|
Gall eich cwmni gyrfa lleol eich rhoi ar y trywydd iawn, neu ffoniwch llinell gymorth Learndirect ar 0800 100 900.
|
Mae pobl abl o gorff a llai abl o gorff yn wynebu'r un pryderon wrth benderfynu beth i'w wneud. Edrychwch ar y tudalennau sy'n trafod Addysg Uwch ac Addysg Bellach ar y wefan yma i gael rhagor o wybodaeth. Cyn dewis lle i fynd i astudio, mae'n gwneud synnwyr i chi fynd yno ar ymweliad, siarad â'r myfyrwyr a gweld pa gyfleusterau sydd ar gael cyn penderfynu'n derfynol. Mae swyddogion neu gynghorwyr ar gyfer pobl anabl ar gael ym mhob sefydliad a gallan nhw roi cyngor ichi am bob math o bethau, materion emosiynol, personol neu ariannol, a hynny'n gwbl gyfrinachol.
Materion ariannol a myfyrwyr anabl
- Does dim cyfyngiad oedran ar y lwfans i fyfyrwyr anabl ac NID oes prawf modd arno chwaith
- Taliad ategol ydy'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ac mae ar gyfer myfyrwyr amser llawn sydd ag anableddau - cyhyd â'u bod yn gymwys i gael lwfans cynnal gan eu Hawdurdod Addysg Lleol
- Mae budd-daliadau asesiedig gan yr Adran Nawdd Cymdeithasol ar gael i fyfyrwyr anabl. Ffoniwch y lein ymholiadau ar 0800 882200
- Ar ôl cyrraedd 16 mlwydd oed fe allech chi fod yn gymwys i gael lwfans byw i'r anabl, Lwfans Anabledd Dwys neu ategiad incwm
- Mae'n bosib eich bod chi'n gymwys i hawlio budd-dâl tai, budd-dâl treth y cyngor neu daliadau'r gronfa gymdeithasol
- Fe gewch chi wybodaeth am y benthyciadau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy glicio ar y cyswllt yma.
Dyslecsia
Rai blynyddoedd yn ôl, byddai dyslecsia wedi bod yn ddigon i rwystro pobl rhag parhau gyda'u haddysg. Ond bellach, mae pob sefydliad yn cynnig gwasanaeth arbenigol i bobl â dyslecsia ac yn cynnig help, cyngor a gwasanaeth cwnsela. Mae modd trefnu amser ychwanegol ar gyfer arholiadau, cyfrifiaduron pwrpasol, arholiadau llafar ayb. Cysylltwch â'r sefydliad perthnasol i ofyn am help. Prifysgol Bangor ydy’r ganolfan fwyaf blaenllaw yng Nghymru yn y maes yma a chanddi wybodaeth ddefnyddiol a rhifau cyswllt i fyfyrwyr â dyslecsia, neu fyfyrwyr sy'n credu eu bod yn ddyslecsig.
Ewch i'r wefan neu ffoniwch 01248 382203.
Ewch i lincs am safleoedd perthnasol i fyfyrwyr ag anableddau
Ìý
|
Ìý |