Myfyriwr
gyda nam ar ei olwg
Oed:
21
Coleg
neu Brifysgol:
Mi wnes i ddod o Goleg y Deillion yn Henffordd
i Goleg Pontypridd. Dwi'n astudio Prosesu Geiriau
a Thestun RSA, Sgiliau Sillafu RSA, Profion
Cyrhaeddiad AEB mewn Llythrennedd a Rhifedd
a TG.
Yn
ddelfrydol, fy nod yw gweithio ym maes darlledu
radio. Ar ôl siarad gyda fy ngweithiwr cymdeithasol,
dwi'n ystyried gwaith swyddfa mewn amgylchedd
radio.
Y
cwrs:
Dwi wedi bod yma am ddwy flynedd, ac fe fydda'i
yma am flwyddyn arall. Mi wnes i ddechrau gwneud
cwrs Celfyddydau Creadigol yn Henffordd, ond
mae'r cwrs dwi arno fo nawr yn cynnig opsiynau
ychwanegol i mi. Dwi nawr yn astudio Technoleg
Swyddfa Fodern, ac un o gyrsiau'r Ysgol Cyrchedd
Galwedigaethol, cwrs synhwyraidd ar gyfer myfyrwyr
gyda nam ar eu golwg.
Y
peth gorau:
Dwi wir yn mwynhau TG, a'r ffaith fy mod i'n
cael ysgrifennu'n greadigol. Mae yna athrawon
da iawn yma sy'n cynnig dewis eang i chi. Yr
hyn sy'n bwysig yw fod y cwrs yma'n rhoi amser
i chi wneud pethau. Dydych chi ddim yn cael
eich brysio.
Y
peth gwaethaf:
Dwi ddim yn poeni am godi yn y bore… ond ar
y cyfan, dyna sy'n poeni'r rhan fwyaf o bobl
yma!
Gwybodaeth
ddefnyddiol:
Gwnewch eich gorau, a pheidiwch â phoeni am
ddim byd. Cofiwch hefyd fod yn rhaid gwneud
y pethau diflas er mwyn cael y pethau gorau.
Byddwch yn bositif wrth dderbyn unrhyw her newydd,
a pheidiwch â phoeni ynglyn â gwneud pob dim
ar unwaith.
|