Deg awgrym ar gyfer llwyddo drwy'r drefn clirio
<< Y pum blaenorol
6. Bydda’n drefnus
Cyn gwneud galwad ffôn gwna’n siwr fod gen ti:
- enw neu deitl y person mae angen i ti siarad ag
ef/hi
- teitl y cwrs a’r rhif cod
- dy rif UCAS di
- dy rif CEF(Clearing Entry Form), os yw wedi cyrraedd
- dy ganlyniadau arholiad
- dy fanylion personol – cyfeiriad, cod post, rhif
ffôn, ffacs neu e-bost
- papur a phen er mwyn gwneud nodiadau.
Penderfyna ymlaen llaw beth rwyt ti’n mynd i’w ddweud,
yn enwedig dy resymau di dros wneud cais am y cwrs. Cofia swnio’n frwdfrydig am y cwrs a’r brifysgol gan
ddangos dy fod ti’n gwybod tipyn amdanynt.
Efallai y cei di gynnig lle ar gwrs arall. Meddylia
am hyn a sut y byddi di’n ymateb, cyn ffonio.
7. Safa ar dy draed dy hun
Gelli gysylltu â phrifysgolion dros y ffôn, y ffacs,
drwy e-bost neu drwy ymweliad personol. Mae ymweliad personol, os yw hynny’n realistig, yn gallu gwneud
argraff ar diwtoriaid derbyn.
Paid â chael rhywun arall i ffonio yn dy le. Mae
tiwtoriaid derbyn am siarad â ti, nid dy fam! Os oes wir gen ti problemau yn gwneud hyn, ofyna dy tiwtor neu Cynghorydd Gyrfaoedd.
8. Dal ati!
Mae prifysgolion a cholegau’n boddi mewn galwadau
ffôn yn y dyddiau yn union ar ôl cyhoeddi’r canlyniadau. Rho gynnig ar ffacsio ac e-bostio hefyd.
Bydda’n amyneddgar a dyfalbarhaus a phaid â rhoi’r
ffidil yn y to.
9. Gwna’n siwr dy fod ti’n anfon dy CEF i mewn cyn
gynted â phosib
Os cei di gynnig lle bydd y brifysgol yn gofyn i
ti anfon ‘Ffurflen Mynediad drwy’r Broses Clirio’ (CEF) wedi ei llenwi atynt. (Anfonir y CEF atat yn
otomatig gan UCAS os na chei di dy dderbyn gan dy gynigion gwreiddiol.)
Cyn gynted ag y gofynnir i ti am dy CEF gwna’n siwr
ei bod yn cyrraedd y brifysgol cyn gyflymed â phosib. Anfona hi (y gwreiddiol nid ffacs na llungopi)
drwy’r post dosbarth cyntaf neu dos â hi yno’n bersonol os nad yw’n rhy bell i ti deithio.
Ni fydd unrhyw gynnig a wneir yn dy rwymo di hyd
nes y bydd y brifysgol wedi derbyn dy CEF ac wedi ei hanfon at UCAS.
Dim ond i un lle y gelli di anfon dy CEF ar y tro
felly gwna’n siwr dy fod ti eisiau’r lle a’u bod nhw dy eisiau di, cyn gadael y CEF allan o dy ddwylo.
10. Trefna fod gen ti le i fyw
Unwaith y byddi di wedi cael cynnig pendant o le,
cysyllta â swyddfa lety’r brifysgol cyn gynted ag y medri i weld sut mae cael rhywle i fyw.
|