Deg awgrym ar gyfer llwyddo drwy'r drefn clirio
1. Paid â mynd i ffwrdd ar wyliau
Paid â mynd i ffwrdd yn y diwrnodau ar ôl i’r canlyniadau
ddod allan. Mae angen i ti fod gartref i wneud a derbyn galwadau ffôn, delio â gohebiaeth a gwneud penderfyniadau
yn y fan a’r lle.
2. Paid â gwneud penderfyniadau byrbwyll
Mae’n bosib iawn y byddi di’n teimlo’n ddigalon
os nad wyt ti wedi cael y canlyniadau roeddet ti’n gobeithio amdanynt. Mae’n demtasiwn i dderbyn y lle
cyntaf sydd ar gael rhag ofn i bob lle gwag gael ei fachu os na wnei di rywbeth yn sydyn.
Paid â rhuthro i benderfyniad mewn panig. Un o’r
rhesymau mwyaf cyffredin pam fod myfyrwyr yn rhoi’r gorau i gwrs addysg uwch yw am eu bod wedi derbyn
lle drwy’r drefn Clirio nad oedd yn gweddu iddyn nhw mewn gwirionedd. Rho ychydig o amser i ti dy hun
i bwyso a mesur pethau a chynllunio dy strategaeth Clirio.
3. Ceisia gyngor
Efallai y byddi di’n teimlo’n ddryslyd ac yn ansicr
beth i’w wneud nesaf. Cofia drafod pethau gyda rhywun. Gall ffrindiau a’r teulu helpu ond weithiau maen’
nhw ychydig yn rhy agos i weld pethau’n glir.
Siarada â rhywun fel athro neu gynghorydd gyrfaoedd.
Efallai y byddi di am ailfeddwl ynglyn â’r cwrs a ddewisaist yn wreiddiol. Efallai y gwnei di benderfynu
nad wyt ti am fynd i mewn i’r drefn Clirio y tro hwn. Gallet drafod opsiynau eraill fel ailsefyll ac ymgeisio
eto y flwyddyn nesaf neu beidio â mynd ymlaen i addysg uwch o gwbl. Os wyt ti’n penderfynu mynd drwy’r
drefn Clirio mae gan athrawon a chynghorwyr gyrfaoedd y wybodaeth a’r profiad i dy arwain di’n llwyddiannus
drwy’r broses Clirio.
4. Bydda’n realistig
Y mwyaf poblogaidd yw’r cwrs a/neu’r brifysgol,
mwyaf oll o gystadleuaeth fydd yna oddi wrth ymgeiswyr Clirio eraill. Bydda’n realistig ynglyn â pha gyrsiau
sy’n debygol o fod yn agored i ti. Gallai hyn olygu ailfeddwl ynglyn â’r cwrs a ddewisaist yn wreiddiol
a chwilio am fath gwahanol o brifysgol.
Mae cyrsiau poblogaidd iawn fel y gyfraith, meddygaeth
a ffisiotherapi yn annhebygol o fod â llefydd gwag yn ystod y broses Clirio. Yn gyffredinol, mae yna lai
o lefydd gwag ar gyrsiau yn y celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol nag ar gyrsiau gwyddoniaeth
a thechnoleg. Mae bron bob tro gan y drefn clirio mwy o lefydd gwag na byddet yn meddwl. Paid a poeni os wyt ti am wneud cwrs 'poblogaidd', cadw'n hyblyg am le rwyt ti am astudio ac edrycha ar:
- gyrsiau sy’n debyg i’r hyn rwyt ti am ei wneud ond
nad ydyn nhw’n derbyn cynifer o geisiadau (e.e. ‘Hanes Cymdeithasol’ yn lle ‘Hanes’)
- cyrsiau sy’n cyfuno’r pwnc rwyt ti am ei wneud gyda
phwnc arall llai poblogaidd
- cyrsiau llai adnabyddus
- cyrsiau newydd
- cyrsiau mewn prifysgolion llai adnabyddus
5. Gwna’n siwr dy fod ti’n gwybod am beth rwyt ti’n
ymgeisio
Cyn cysylltu ag unrhyw brifysgol gwna’n siwr dy
fod ti’n deall yn union beth rwyt ti’n ymgeisio amdano. Yn aml mae llefydd gwag yn cael eu rhestru dan
benawdau cyffredinol sy’n rhoi dim ond syniad bras o gynnwys y cwrs.
Mynna gael tipyn o wybodaeth am y brifysgol neu’r
coleg ei hun. Mae’n rhaid iddo fod yn rhywle rwyt ti am dreulio tair/pedair blynedd nesaf dy fywyd ynddo.
Defnyddia brospectysau, llyfrau a safleoedd gwe
prifysgolion i gael gwybod mwy.
Gwna’n siwr dy fod ti am wneud y cwrs a dy fod ti’n
gwybod digon amdano i argyhoeddi’r tiwtor derbyn fod gen ti ddiddordeb gwirioneddol.
Y pum nesaf >>
|