Astudio GNVQ, yn mynd ymlaen i wneud HND
Oed:
20
Cartref:
Ystalyfera
Coleg:
Yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot, wedi astudio
GNVQ Uwch Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
a bellach yn astudio HND mewn Iechyd a Gofal
Cymdeithasol gyda'r posibilrwydd o wneud blwyddyn
ychwanegol i'w droi'n radd.
Hefyd
yn gweithio'n rhan-amser fel gweithiwr cefnogi
i bobl anabl a phobl ag anawsterau dysgu.
Pam
coleg:
Fe wnes i benderfynu gwneud GNVQ yn y coleg
gan nad oeddwn i'n hoffi fy hen ysgol, ac roeddwn
i angen newid. GNVQ oedd y cwrs gorau i fi gan
ei fod yn weddol gyffredinol ei naws ac yn addas
ar fy nghyfer i, yn hytrach nag astudio tri
phwnc Lefel A penodol.
Pam
mynd ymlaen i wneud HND:
Fe wnes i benderfynu mynd ymlaen o GNVQ i wneud
HND. Er y gallwch chi gael swyddi da gyda GNVQ,
pe bawn i'n penderfynu newid cyfeiriad mewn
blwyddyn neu ddwy, fe fyddwn i angen mwy o gymwysterau.
Dwi'n gwybod na fyddai gen i amynedd i fynd
yn 么l i'r coleg bryd hynny, felly fe wnes i
benderfynu gwneud y cyfan nawr, ac addysgu fy
hun yn llawn. Mae HND yn ddwy rhan o dair o
radd. Mae pobl sy'n pasio HND yn cael swyddi
cymharol dda, ac maen nhw hefyd yn sicr o le
ym mlwyddyn olaf y cwrs Gradd BA tair blynedd
ym Mhrifysgol Caerdydd os ydyn nhw eisiau parhau.
Y
cwrs:
Aseiniadau, cyflwyniadau, llyfr cofnod sy'n
broffil personol o'ch datblygiad, astudiaethau
achos, traethodau ac ymchwil. Pan yn gwneud
GNVQ, roeddwn i'n ysgrifennu aseiniadau drwy'r
amser, ac er bod llai ohonyn nhw mewn HND, mae'r
pynciau'n anoddach.
Pwyntiau
da:
Dwi ddim yn meddwl bod yr HND mor anodd 芒 GNVQ,
dim ond bod disgwyl gwaith o safon uwch ac mae
angen disgrifio popeth yn fwy eglur. Deuddydd
o waith yr wythnos sydd 'na, ond mae'n waith
caled gan ei fod yn gwrs llawn-amser. Mae'n
golygu 'mod i'n gallu gweithio hefyd, ac mae
hynny'n gwneud y cyfan yn ariannol bosib. Fe
fyddai'n llawer yn fwy anodd i mi fynd ar gwrs
5 diwrnod yr wythnos, gan mod i'n byw 30 milltir
i ffwrdd ac fe fyddwn i'n defnyddio mwy o betrol.
Fyddwn i ddim yn medru gweithio 'chwaith, felly
fe fyddwn i'n colli'r profiad o weithio gyda
phobl, sy'n rhan mor bwysig o'r cwrs hwn. Mae'r
system dau ddiwrnod yn llawer mwy cyfleus i
bobl sydd 芒 theuluoedd.
Pwyntiau
drwg:
Yr unig beth dwi ddim yn ei hoffi am y cwrs
yw'r cyflwyniadau. Mewn grwpiau o bedwar, mae'n
rhaid i ni drafod pynciau fel Cyfleoedd Cyfartal.
Rydyn ni'n dewis polisi, yn ei astudio'n ofalus
ac yna mae pawb yn siarad am 7陆 munud ar y pwnc.
Y broblem yw, mae'n rhaid i ni wneud hyn dros
linell fideo i Gaerdydd, fel bod yr arholwyr
yn medru'n gweld ni! Mae'n brofiad ysgytwol
iawn!
Coleg
v Prifysgol:
Dwi ddim yn meddwl y byddai gwneud y cwrs yma
mewn prifysgol yn wahanol iawn, gan fod y gwaith
yr un fath. Ond mae coleg yn fwy cyfleus i bobl
gyda phlant, gan fod y gwyliau fwy neu lai'n
cydredeg.
|