GNVQ/(TAAU) AVCE Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol (CGCCau)
Am aros ymlaen,
ond dyw Lefel TAG Uwch/AS ddim yn apelio?
Byddai’n well gen ti gwrs sy’n cydgysylltu dysgu â byd gwaith?
Efallai mai
GNVQ/TAAU yw’r ateb i ti!
Pam
dewis GNVQ/AVCE?
Cyrsiau yn yr
ysgol neu goleg y gelli di eu cymryd ar eu pen eu hunain neu ochr
yn ochr â TGAU a lefel TAG Uwch/AS yw GNVQs (General
National Vocational Qualification) ac TAAU (Tystysgrif Addysg Alwedigaethol
Uwch). Nid yw GNVQs na TAAU wedi eu bwriadu i hyfforddi rhywun ar
gyfer swydd benodol ond i ddysgu gwybodaeth a sgiliau sy’n berthnasol
i feysydd gyrfaol bras, fel Busnes neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae yna lefelau
gwahanol o GNVQs a TAAU sy’n gweddu i’r rhan fwyaf o bobl. Os oes
gen ti ryw syniad o’r math o waith rwyt ti am ei wneud, os wyt ti’n
mwynhau gwaith cwrs, prosiectau grwp a dysgu drwy weithgareddau,
beth am holi mwy am GNVQs a TAAU?
Am gael cymhwyster sy’n ymwneud yn fwy penodol â
swydd arbennig? Dos i Hyfforddiant yn y Gwaith
Byddai’n well
gen ti gadw at y llwybr academaidd traddodiadol? Edrycha dan Lefel
TAG Uwch/AS.
GNVQ Sylfaen Ffeil ffeithiau
- Angen un neu ddau TGAU neu ddim TGAU o gwbl
- Cwrs blwyddyn fel arfer · Rhan Un = dau TGAU D-G
- Dyfarniad llawn = pedwar TGAU D-G
- Y graddau llwyddo yw: Pasio, Teilyngdod neu Anrhydedd
- Gall arwain at addysg bellach neu waith/hyfforddiant.
GNVQ Canolradd Ffeil ffeithiau
- Angen pasio rhai TGAU - mae graddau D-G yn dderbyniol
- Cwrs blwyddyn fel arfer
- Rhan Un = dau TGAU A*-C
- Dyfarniad llawn = pedwar TGAU A-C
- Y graddau llwyddo yw: Pasio, Teilyngdod neu Anrhydedd
- Gall arwain at addysg bellach neu waith/hyfforddiant.
GNVQ Uwch Ffeil ffeithiau
- Angen pedwar TGAU graddau A*-
- Cwrs dwy flynedd fel arfer
- Dyfarniad ‘tair uned’ = un AS
- Dyfarniad
‘chwe uned’ = un lefel TAG Uwch
- Dyfarniad
‘deuddeg uned’ = dwy lefel TAG Uwch
- Graddau A
– E er mwyn gallu cymharu’n hawdd â lefel TAG Uwch/AS
- Gall arwain at addysg uwch neu waith/hyfforddiant
TIP
TANBAID!
|
Gelli
gymryd y cyrsiau lefel AS a TAG Uwch newydd ochr yn ochr â’r
cyrsiau TAAU newydd felly mae’n haws cymysgu TAAU gyda lefel
TAG Uwch/AS
|
WYDDET
TI?
|
Gelli
nawr gymryd cymwysterau sgiliau allweddol newydd mewn Cyfathrebu,
Cymhwysedd o Rifau a TG, ochr yn ochr â'th TAAU.
|
Pynciau GNVQ
Beth Nesa Ar Ôl GNVQ?
|