Astudio tramor
Oed:
20
Coleg
neu Brifysgol:
Prifysgol Talaith Oregon/Prifysgol Bangor yn
astudio Swoleg. Fy uchelgais yw bod yn Ymchwilydd
/Ffotograffydd Bywyd Gwyllt a gweithio gydag
anifeiliaid gwyllt, a chynorthwyo gyda chadwraeth.
Y
profiad:
Mae bod yn Oregon yn wych. Mae'r bobl yma'n
gweithio'n galed ac mae'n nhw hefyd yn gwybod
sut i gynnal parti! Mae'r darlithoedd yn ddiddorol
iawn, ac mae'r dosbarthiadau labordy yn cynnig
teithiau maes anhygoel, i ddal madfallod a llyffantod
mewn coedwig enfawr lle maen 'na geirw dof ac
adar lleol gwych.
Amser
gorau:
Mynd ar daith i'r mynyddoedd a drefnwyd gan
ein cydlynydd myfyrwyr cyfnewid, a thynnu lluniau
o'r golygfeydd a cheirw'n neidio. Dwi'n mynd
i eirafyrddio dros y Sul, ac mae'n siwr y bydd
hwnnw'n brofiad bythgofiadwy!
Amser
gwaethaf:
Dewis byw mewn fflat gydag enw drwg ... ond
bellach dwi wedi symud i dy bendigedig am rent
is! Hefyd, mae 'na arholiadau bob mis, sy'n
medru bod yn straen, ond mae'n well nag astudio
fel ffwl ar ddiwedd y tymor.
Cyngor:
Mi fyddwn i'n cynghori unrhyw un i fynd amdani!
Mae'n gyfle gwych i brofi diwylliant America
a'i phobl. Mae'n syniad dod i adnabod y bobl
sy'n mynd o'ch prifysgol chi, fel na fyddwch
chi'n teimlo'n unig. Mae 'na lot o waith trefnu
cyn i'r dosbarthiadau ddechrau, ac mae'n llawer
yn haws os cewch chi gymorth gan bobl sydd yn
yr un sefyllfa.
|