Astudio Dramor
Pam?
1. Gwneud rhywbeth cyffrous
2. Ehangu dy orwelion
3. Dysgu am ddiwylliannau gwahanol
4. Teimlo’n gyfforddus gyda ffyrdd eraill o fyw
5. Ymddangos yn fydol-ddoeth a soffistigedig i dy
ffrindiau gartref
6. Gwella dy sgiliau iaith
7. Gwneud ffrindiau a chysylltiadau defnyddiol
8. Ehangu dy opsiynau swyddi i’r dyfodol
9. Manteisio ar gyfleoedd gyrfa rhyngwladol
10. Cystadlu yn y farchnad fyd-eang!
Gwneud y cwrs cyfan dramor (Anodd)
Fel aelod o’r Undeb Ewropeaidd, mae gan ddinasyddion
y DG yr hawl (mewn theori) i wneud cais am gwrs mewn unrhyw brifysgol o fewn yr UE. Yn ymarferol, nid
yw hyn mor hawdd ag y mae’n swnio. Bydd angen i ti fod yn rhugl yn iaith y wlad dan sylw i fanteisio ar
hynny. Bydd angen y stamina arnat hefyd i ymchwilio i gyrsiau a threfniadau ymgeisio.
Does dim i rwystro neb rhag ymgeisio am le mewn
unrhyw brifysgol mewn unrhyw fan yn y byd os yw’r brifysgol honno yn derbyn myfyrwyr tramor ac y gelli
di dalu. Mae nifer fach iawn o fyfyrwyr o’r DG yn dilyn y llwybr hwn, fel arfer yn UDA, ond bydd angen
arian ynghyd â phenderfyniad arnat.
Os hoffet ti wybod mwy, dechreua gyda thipyn o ymchwil
sylfaenol yn llyfrgell dy Ganolfan Gyrfaoedd leol, yna cysyllta â’r llysgenhadaeth berthnasol yn uniongyrchol.
Cyrsiau yn y DG sy'n mynd â ti dramor (Haws)
Cyrsiau iaith
Mae’r rhan fwyaf o raddau ieithoedd modern yn golygu
treulio hyd at flwyddyn dramor, un ai fel ‘assistant/e’ neu fel myfyriwr mewn prifysgol dramor. Yn Ewrop
y mae’r rhan fwyaf o’r ‘blynyddoedd pontio’ hyn ond gallant fod tu hwnt i Ewrop, yn dibynnu ar yr iaith/ieithoedd
sy’n cael eu hastudio.
Cyrsiau sy’n cyfuno iaith
Os byddi di’n cyfuno iaith gyda rhywbeth arall
fel astudiaethau busnes, y gyfraith, gwyddoniaeth neu beirianneg mae’n bosib y bydd y cwrs yn golygu cyfnod
o amser mewn prifysgol dramor neu ar brofiad gwaith dramor. Mae rhai o’r cyrsiau hyn yn arwain at gymwysterau
DG/Ewropeaidd deuol.
Cyrsiau ar
wahân i iaith
Mae rhai cyrsiau
ar wahân i iaith yn cynnig y cyfle i astudio dramor fel rhan o’r
cwrs. Mae’r rhain yn dod yn fwy poblogaidd gyda rhai, fel arfer
y rhai sydd â sail busnes neu dechnolegol , yn cynnwys astudio neu
weithio mewn llefydd fel Awstralia, Canada, UDA neu’r Dwyrain Pell.
Mae’r cynllun ERASMUS yn caniatáu i brifysgolion
yn Ewrop drefnu ymweliad cyfnewid addysgiadol neu at ddibenion astudio gyda phartner sefydliadau ar gyfer
eu myfyrwyr. Byddet yn synnu at yr amrywiaeth o gyrsiau sy’n cynnig yr opsiwn hwn. Er nad oes rhaid i
ti fod yn cymryd iaith fel rhan o dy radd, efallai y cei di broblemau’n ymdopi onid oes gen ti rai sgiliau
iaith ymlaen llaw (e.e. lefel A).
TIP
TANBAID!
|
Beth
am wella dy sgiliau iaith cyn astudio dramor drwy gael gwaith dros yr haf neu waith ar Flwyddyn Allan
|
Ìý
|