Ail sefyll arholiadau
Oed:
20
Ysgol:
Fe wnes i Lefel A mewn Drama, Cymdeithaseg ac
Astudiaethau'r Cyfryngau, ond wnes i ddim cael
y graddau roeddwn i wedi'u disgwyl. Fe allwn
i fod wedi mynd i brifysgol gyda'r graddau hynny,
gan mod i wedi cael cynnig lle ym Mryste, ond
ro'n i'n teimlo'n gryf na fyddwn i wedi bod
yn hapus yn mynd yno ar y pryd. Do'n i ddim
yn barod i fynd i brifysgol, roedd angen i mi
fagu hyder. Ro'n i'n teimlo y dylwn i ail-sefyll
fy Lefel A, i brofi i mi fy hun y gallwn i wneud
yn well. Do'n i ddim eisiau mynd trwy'r broses
glirio, ac fe roddais flwyddyn i mi fy hun i
ddod i benderfyniad ynglyn 芒 'nyfodol.
Fe
wnes i benderfynu mynd i Goleg Addysg Bellach
traddodiadol, ac ail-sefyll fy arholiad Cymdeithaseg
er mwyn ceisio cael gradd ro'n i'n sicr y gallwn
ei chael. Fe wnes i hefyd benderfynu sefyll
Lefel A Saesneg mewn blwyddyn er mwyn gwella
fy sgiliau ysgrifennu traethodau.
Coleg:
I fi, dyna oedd y peth iawn i'w wneud. Fe ges
i'r cyfle i ail-asesu fy nyfodol heb frysio
i wneud hynny. Roedd yn haws ymlacio mewn Coleg
Addysg Bellach, ac roedd y darlithwyr yn ofalus
iawn ohonon ni; roedden nhw wedi arfer delio
芒 myfyrwyr aeddfed a oedd yn wynebu problemau
gyda gofal plant neu amser yn ymwneud 芒 gwaith.
Fi oedd yr ieuengaf yn y dosbarth Cymdeithaseg,
ac fe fu hynny'n hwb mawr i mi gan fod gan y
myfyrwyr aeddfed gymaint o wybodaeth ychwanegol
- ro'n i'n teimlo rheidrwydd i gadw'i fyny 芒
nhw.
Cyngor:
Rhowch amser i bwyso a mesur pethau. Ro'n i'n
gwybod na fyddwn i'n hapus yn mynd i'r brifysgol,
jest am fod fy ffrindiau i i gyd yn mynd. Fe
roddodd y flwyddyn ychwanegol gyfle i fi ganolbwyntio
ar yr hyn roeddwn i ei eisiau. Roedd hi'n anodd
gweld fy ffrindiau'n mynd a finnau'n aros ar
么l, ond ro'n i wedi gwneud penderfyniad pendant
ac ro'n i'n dal i allu'u gweld nhw yn ystod
y gwyliau. Roedd yn deimlad braf mynd o'i chwmpas
hi yn y ffordd wnes i. Fe wnes i ddysgu sgiliau
bywyd yn ystod y flwyddyn yna. Roedd y dewis
yno i mi o hyd, i fynd i brifysgol os a phan
ro'n i am wneud hynny.
Nod
yrfaol:
Dwi wastad wedi bod 芒 diddordeb yn y cyfryngau.
Ar 么l gadael coleg, fe symudais i Lundain a
chael swydd 'Nawdd a Hyrwyddo' gyda Carlton
Screen Advertising yng nghanol y ddinas. Dwi'n
gweithio ym maes hyrwyddo ffilmiau a rheoli
ymgyrchoedd. Ar hyn o bryd, dwi'n gweithio fel
cynorthwy-ydd gweinyddol, ond dwi'n cael cynnig
syniadau i ymgyrchoedd, ac mae'n gyfle da iawn
i mi. Mae'r swydd yn gam tuag at waith Cysylltiadau
Cyhoeddus a Digwyddiadau. Dwi wedi cael dyrchafiad
eisoes, oherwydd i mi ddangos diddordeb a brwdfrydedd,
nid oherwydd cymwysterau addysgol yn unig. Mae'n
debyg mai fy nghyngor i fyddai gweithio'n galetach
yn y lle cyntaf, a gweithio ar eich sgiliau
cymdeithasol a chyfathrebu, gan mai dyna mae
pobl yn eu gweld, a dyna mae pobl eu heisiau.
|