Opsiynau eraill yn lle mynd drw'r drefn clirio
Ailsefyll
Efallai y gwnei di benderfynu dy fod am ailsefyll
dy arholiadau, yn enwedig os na elli di gael lle ar y cwrs rwyt ti am ei wneud drwy’r drefn Clirio. Mae
yna fanteision ac anfanteision i ailsefyll ac mae angen i ti feddwl yn ofalus cyn bwrw ymlaen.
Dylet ystyried yn ofalus a thrylwyr pam na ches
ti’r graddau roeddet ti eu hangen. Efallai fod yna reswm amlwg fel salwch neu ryw broblem deuluol, neu
a oedd y graddau roeddet ti’n eu disgwyl yn afrealistig? Wnes ti weithio’n ddigon caled? Os do, wyt ti’n
siwr y bydd pethau’n wahanol y flwyddyn nesaf?
Gall ailwneud cwrs fod yn ddiflas ac nid yw’n hawdd
ysgogi dy hun, yn enwedig pan fo dy ffrindiau i gyd wedi symud ymlaen. Bydda’n onest gyda dy hun. Oes
gen ti’r gallu i gael gwell graddau? Cofia – bydd rhai prifysgolion yn gofyn am raddau uwch gan y rhai
sy’n ymgeisio am yr ail waith.
Ailddechrau o’r dechrau
Os wyt ti’n wirioneddol gredu y gallet ti wneud
yn well y tro nesaf, gallai newid amgylchedd helpu i roi dechrau newydd i ti. Efallai y byddi di am gofrestru
mewn ysgol neu goleg gwahanol. Mae rhai colegau’n cynnig cyrsiau blwyddyn arbennig ar gyfer myfyrwyr ailsefyll.
Mae colegau y telir ffïoedd iddynt yn arbenigo mewn
myfyrwyr sy’n ailsefyll eu lefel A. Os oes gan dy rieni di ddiddordeb gallant gysylltu â llinell gymorth
y Gynhadledd dros Addysg Bellach Annibynnol (CIFE) neu ar 020 8767 8666.
Newid dy gwrs
Gallet fynd i’r afael â phwnc newydd neu hyd yn
oed newid cwrs yn gyfan gwbl. Mae gwneud rhywbeth gwahanol yn rhoi mwy o ysgogiad nag ailadrodd hen gwrs
ond bydd yn golygu gwaith caled.
Mae llawer o bobl yn cael eu derbyn i’r brifysgol
neu i swyddi gyda chymwysterau ar wahân i lefel A/AS. Mae GNVQs yn
golygu mwy o waith cwrs a llai o arholiadau na lefel A traddodiadol. Efallai y byddai’r patrwm hwn yn
gweddu’n well i ti.
Mae Colegau AB hefyd yn cynnal cyrsiau eraill sy’n rhoi hyfforddiant ar gyfer swyddi penodol fel nyrs feithrin,
pen-cogydd neu driniaeth harddu.
Cael swydd
Os wyt ti wedi dy siomi yn dy ganlyniadau arholiadau,
efallai y gwnei di benderfynu nad wyt ti am fynd ymlaen i addysg uwch ar hyn o bryd. Efallai mai cael
swydd a dysgu tra’r wyt ti’n ennill yw’r ateb i ti. Gall gwaith roi profiad a sgiliau i ti – pethau nad
oes gan raddedigion prifysgol mohonynt yn aml.
Efallai hefyd y gelli di gael cymwysterau galwedigaethol
tra’r wyt ti’n gweithio. Chwilia am gyfleoedd sy’n cynnig rhaglen hyfforddi strwythuredig fel y cynllun
‘Prentisiaeth Fodern’ sy’n gwarantu hyfforddiant hyd at CGC lefel 3 o leiaf.
Cymryd seibiant
Efallai dy fod ti’n teimlo na elli di wynebu’r pwysau
o ymladd am le drwy’r drefn Clirio y funud hon. Efallai fod angen seibiant arnat ti i bwyso a mesur pethau?
Hwyrach y byddai blwyddyn allan yn rhoi’r cyfle
i ti wneud rhywbeth gwahanol a rhoi trefn ar dy feddwl.
Dyw penderfynu peidio â mynd i’r brifysgol nawr
ddim yn golygu na wnei di byth ennill cymwysterau uwch. Mae llawer o bobl yn astudio’n rhan-amser tuag
at HND neu raddau neu’n mynd i mewn i addysg uwch fel myfyrwyr amser llawn yn hwyrach yn eu bywydau.
|