Astudio Gradd Gyfun
Oed:
29
Coleg
neu Brifysgol:
Mi wnes i astudio Bioleg M么r /Eigioneg ym Mhrifysgol
Bangor. Fel myfyriwr aeddfed, roedd gen i eisoes
11 mlynedd o brofiad yn y byd mawr. Mi wnes
i dreulio'r cyfnod yma i gyd fel Prif Is-Swyddog
a Thechnegydd Peirianneg M么r yn y Llynges, yn
gweithio'n bennaf ar longau tanfor niwclear.
Dychwelyd
i'r brifysgol:
Roeddwn i'n anhapus ynglyn 芒 pha mor bellach
y gallwn i ddatblygu fy ngyrfa yn y Llynges
ac mewn Peirianneg, ac roeddwn i'n meddwl y
dylwn i fentro i faes newydd o ddiddordeb tra'r
oedd cyfle gen i.
Pynciau
a astudiwyd:
Yn amlwg, roedd gen i ddiddordeb mewn Bioleg
M么r o'm cyfnod yn y Llynges, ac roeddwn i eisiau
dysgu mwy am anifeiliaid y m么r. Hyd yn oed nawr,
dwi ddim o reidrwydd eisiau gweithio yn y maes
- dwi'n gobeithio mentro fel ymgynghorydd rheoli!
Y
cwrs:
Yn wreiddiol, mi ges i 'nerbyn i wneud gradd
sengl mewn Bioleg M么r. Fel myfyriwr aeddfed,
ches i fawr o broblemau'n cael fy nerbyn. Ar
么l astudio Bioleg M么r am rai misoedd, mi wnes
i benderfynu newid i wneud gradd gyfun mewn
Bioleg M么r ac Eigioneg, a hynny am fod gwaith
yn brin ym maes Bioleg M么r a mod i'n meddwl
y byddai'n gyfuniad gwell. Dwi hefyd yn teimlo
bod cyflogwyr y dyddiau yma yn fwy awyddus i
ddod o hyd i weithwyr cyffredin nac arbenigwyr.
Gradd
gyfun:
Mae dwy ran y cwrs yn ategu'i gilydd, ac mewn
gwirionedd, dwi'n ei chael hi'n anodd dirnad
sut mae modd deall un heb y llall. O ran pwysau
gwaith, mae'r ddau gwrs yn rhannu i lawr y canol.
Roeddwn
i'n poeni y byddai gwneud gradd gyfun yn golygu
dwywaith y pwysau gwaith, ond mewn gwirionedd,
mae'r baich gwaith wedi ei drefnu fel ei fod
yn debyg i faich gwaith gradd sengl yn y naill
bwnc neu'r llall. Dwi yma i ddysgu, felly roeddwn
i am gyfuno fy niddordeb mewn Bioleg M么r gydag
agweddau 'sicrwydd swydd' Eigioneg.
Cyngor:
Mae'n gam positif, felly os ydych chi'n meddwl
mai dyna rydych chi am ei wneud, wnewch chi
ddim difaru.
|