Pa Bwnc/Bynciau?
Mae yna filoedd yn llythrennol o bynciau AU gwahanol
i ddewis ohonynt. Y broblem yw gwybod ble i ddechrau!
Pa bynciau fedra i eu hastudio?
- pynciau ysgol fel hanes a chemeg
- pynciau newydd fel seicoleg, delweddu digidol a
geneteg
- pynciau cymhwysol fel astudiaethau busnes, peirianneg
a dylunio
- pynciau galwedigaethol fel dysgu, therapi galwedigaethol
a gwaith syrfëwr
- pynciau’r celfyddydau perfformio fel cerddoriaeth,
dawns a drama
Ble dylwn i ddechrau?
Dim syniad pa bwnc/bynciau yr hoffet ti eu hastudio
yn y brifysgol? Llunia restr fer o blith:
1. Dy bynciau
TAG Uwch/AS, AVCE/BTEC ar hyn o bryd.
2. Pynciau sy’n gysylltiedig â dy bynciau chweched
dosbarth/coleg ar hyn o bryd.
(Er enghraifft, os wyt ti’n gwneud mathemateg, ffiseg
a chemeg ar hyn o bryd, gallet ystyried peirianneg, gwyddor cyfrifiaduron neu gyrsiau meddygol yn ogystal
â’r gwyddorau pur. Os wyt ti’n gwneud pynciau celfyddydol nawr, gallet edrych ar gyrsiau gradd yn y gwyddorau
cymdeithasol yn ogystal â phynciau’r dyniaethau.)
3. Pynciau sy’n berthnasol i dy syniadau ynglyn
â gyrfa, e.e. cyfrifiaduro, dysgu, y gyfraith, cyfrifeg, meddygaeth.
4. Unrhyw beth arall sy’n mynd â dy fryd!
TIP TANBAID!
|
Gelli gael syniadau am gyrsiau o gyfeirlyfrau AU,
o’r rhaglen gyfrifiadurol ECCTIS neu drwy ymweld â safle gwe UCAS.
|
Dewis pynciau AU –
rhestr wirio
|