Cwrs Adeiladu Sgil
Oed:
18
Coleg:
Hyfforddiant Pathways yng Ngholeg Castell-nedd
a Port Talbot. Dwi'n astudio ar gyfer NVQ 1
Dosbarthu a Storio, a Sgiliau Allweddol Lefelau
I a II. Fe wnes i ddechrau fy nghyfnod hyfforddi
ym mis Mehefin 1999 gyda Hyfforddiant Pathways
yng Ngholeg Castell-nedd a Port Talbot, ac ar
leoliad gwaith gyda Somerfield ym Mhontardawe.
Roeddwn i'n treulio pedwar diwrnod yr wythnos
yn gweithio ac un yn y coleg.
Pam:
Fe wnes i ddewis rhaglen Adeiladu Sgil oherwydd
mae'n well gen i hyfforddiant ymarferol. Dwi
hefyd yn hoff o'r syniad y bydd yna swydd i
fi ar ddiwedd y cyfnod hyfforddi. Dwi wedi dysgu
llawer o sgiliau, fel cylchdroi stoc, sut i
weithio'n ddiogel, sut i gyfathrebu gyda phobl
ac rwy'n credu 'mod i wedi datblygu fel person.
Mae wedi bod yn anodd ymdopi 芒 rhai sefyllfaoedd,
ond gyda chymorth fy nghynghorydd hyfforddi
a fy mentor yn Somerfield, dwi wedi llwyddo
i ymdopi. Bob mis, mae fy nghynghorydd hyfforddi
yn ymweld 芒 mi i adolygu fy nghynnydd, gan nodi
meysydd lle mae'n bosibl i mi ymestyn fy hun
ymhellach. Mae asesiadau ar gyfer fy NVQ yn
cael eu trefnu pan dwi'n teimlo'n barod i gael
fy asesu, ar y cyd 芒 fy aseswraig, pan mae hi'n
teimlo 'mod i'n barod i gael fy asesu!
Y
peth gorau:
Pan dwi angen cefnogaeth, dwi ddim yn cael fy
siomi. Y peth mwyaf cyffrous oedd pan wnaeth
Somerfield gynnig swydd i mi, oherwydd roeddwn
i ar raglen dwy flynedd ac fe ges i'r cynnig
ar 么l 15 mis. Ond roedd hynny'n golygu fod yn
rhaid i fi wneud penderfyniad - doeddwn i ddim
wedi cwblhau fy NVQ na TG Lefel 2, ac roeddwn
i wir eisiau gwneud hynny. Yn ffodus, fe drefnwyd
'mod i'n cael treulio diwrnod yr wythnos yn
y coleg er mwyn i mi fedru sicrhau'r cymwysterau.
Y
peth gwaethaf:
Codi yn y bore! Unwaith rydych chi yn y gwaith,
dydy e ddim yn ddrwg i gyd - a dwi wedi gwneud
llawer o ffrindiau a chysylltiadau newydd.
|