Ceiswyr Sgiliau
Wedi cael llond bol ar eistedd mewn dosbarth? Eisiau mynd allan i’r byd go-iawn? Byddai’n well gen ti ennill cymwysterau’n rhan-amser?
Os yw hyn yn swnio’n gyfarwydd – efallai mai hyfforddiant seiliedig-ar-waith yw’r ateb i ti!
‘Ceiswyr Sgiliau’ yw’r enw am bob rhaglen hyfforddi seiliedig-ar-waith, sy’n cael ei hariannu gan y llywodraeth, ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.
Pam dewis hyfforddiant Ceiswyr Sgiliau?
Mae Ceiswyr Sgiliau’n rhoi’r cyfle i ti ennill profiad mewn swydd go-iawn, ynghyd â chymwysterau ar gyfer swydd benodol, fel Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs), tra’n ennill arian.
I ennill cymwysterau mewn rhai meysydd gwaith, fel crefftau peirianneg neu adeiladu ar lefel crefftwr neu dechnegydd, fel arfer byddi’n gadael yr ysgol yn 16 ac yn cael dy hyfforddi drwy brentisiaeth.
Os byddai’n well gen ti gadw dy opsiynau’n agored ychydig yn hwy neu os wyt ti wedi dewis gyrfa lle mae’n rhaid wrth gymwysterau uchel i gael dy dderbyn, byddai’n werth bwrw golwg ar AVCEs a lefel A/AS.
Rhaglenni hyfforddi Ceiswyr Sgiliau
Pa fath o waith y galla i hyfforddi ar ei gyfer drwy hyfforddiant Ceiswyr Sgiliau?
Mae’r cyfleoedd yn amrywio yn dibynnu ym mhle rwyt ti’n byw. Y llwybrau hyfforddi mwyaf cyffredin yw:
- Gwaith clercaidd/swyddfa
- Technoleg Gwybodaeth
- Cynorthwywyr gofal
- Gwerthu a gwaith siop
-
Arlwyo a gwaith gwesty
- Gwaith gweithgynhyrchu (ffatri)
-
Crefftwr/technegydd peirianneg
- Crefftwr/technegydd adeiladu
- Crefftau sgilgar eraill
(fel mecanig moduron a thrydanwr)
- Trin gwallt
ond mae yna lu o bosibiliadau eraill.
Gall dy Ganolfan Gyrfaoedd lleol ddweud mwy wrthyt am y cyfleoedd yn dy ardal di..
TIP
TANBAID!
|
Os wyt ti’n 16 neu’n 17 ac mewn swydd amser llawn yn barod, efallai y bydd gen ti hawl i amser oddi ar y gwaith i astudio neu gael hyfforddiant tuag at gymhwyster o dan y ddeddf Amser Oddi Ar y Gwaith i Astudio.
|
|