Astudio mewn prifysgol ddinesig
Oed:
18
Coleg
neu Brifysgol:
Ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe yn astudio Saesneg
a Daearyddiaeth. Fy nod yw mynd yn Athrawes
Ysgol Gynradd.
Symud
i'r ddinas:
Roedd yn dipyn o sioc! Y pethau bach oedd yn
taro rhywun yn wahanol. Roeddwn i'n medru mynd
allan i lefydd gwahanol fwy nag unwaith yr wythnos,
ac mae'r prisiau yma'n dipyn rhatach nag yng
Nghernyw. Mae Cernyw hefyd yn gallu bod yn lle
eithaf cul, tra bod 'na bobl yma o bob math
o wahanol gefndiroedd.
Pam
Abertawe:
Mi oeddwn i eisiau gadael Cernyw am ei fod yn
fach ac yn fy mygu - roeddwn i eisiau dianc
a gweld mwy o'r wlad. Mi wnes i ystyried mynd
i Brifysgol Brunel, ond roedd gormod o goncrid
yno. Roedd Prifysgol Aberystwyth ormod fel arall
- roedd hi'n rhy dawel yno. Ond roedd Abertawe'n
berffaith. Y bywyd nos yw'r peth gorau. Dim
ond un clwb oedd yn Redruth - mae digon o ddewis
yma. Gan fod cymaint o yfed dan oed yng Nghernyw,
mae rhywun wastad yn gofyn i chi am brawf o'ch
oed - dydy hynny ddim yn digwydd yma.
Pwyntiau
negyddol:
Does dim troseddu yn fy rhan i o Gernyw, ond
mae llawer o droseddu yn Abertawe. Gartref,
mi fydda' i'n teimlo'n ddiogel yn cerdded i
bob man, ond fydda' i ddim yn cerdded ar hyd
llwybr unig yn Abertawe ar fy mhen fy hun, hyd
yn oed yng ngolau dydd.
Pwyntiau
positif:
Mae'n wych byw gyda chymaint o bobl. Dwi'n byw
yn y pentref myfyrwyr, felly mae'n wych crwydro
o gwmpas a chyfarfod ffrindiau. Gartref, roedden
ni'n byw ar fferm, filltiroedd i ffwrdd oddi
wrth fy ffrindiau.
Mae
'na lawer mwy o ryddid yma. Gartref, gan fod
pawb yn nabod ei gilydd, os ydych chi'n gwneud
rhywbeth o'i le mae pawb yn gwybod. Yma, does
fawr neb yn eich nabod chi, felly mi allwch
chi wneud beth fynnoch chi.
Symud
i Gymru:
Does dim llawer yn wahanol yma. Dydy'r iaith
ddim yn broblem, a'r unig wahaniaeth amlwg yw'r
arwyddion ffyrdd dwyieithog. Mae'n debyg y bydda'
i'n dychwelyd i Gernyw ar 么l graddio, ond am
y tro, mae'n wych cael byw yma.
|