Pa Brifysgol?
Ti’n gwybod pa bwnc rwyt ti am ei astudio?
Wedi canfod pa brifysgolion sy’n dysgu’r pwnc hwn?
Ond – pa un yw’r un i ti?
Dewis cyrsiau - rhestr
wirio
Ydw i am fyw yn y fan yna?
Ble mae’r brifysgol?
- Pa mor bell yw hi o gartref?
- Ydy hi yng nghanol dinas, mewn maestref, tref fach, yn y wlad?
- Ydy hi ar un campws neu ar sawl safle?
Beth
am gostau byw a llety?
- Faint mae hi’n ei gostio i fyw yna?
- Oes sicrwydd y ca’ i lety gan y brifysgol yn fy mlwyddyn gyntaf?
- Pa mor hawdd/costus yw hi i gael ty a fflatiau preifat ar ôl y flwyddyn gyntaf?
- Pa mor bell fydd rhaid i mi deithio o lle rydw i’n byw i’r brifysgol. Sut mae’r bysiau?
Beth
am y myfyrwyr eraill?
- Faint o fyfyrwyr sydd yna?
- Sut gymysgedd o fyfyrwyr sydd yna?
- Ifanc/aeddfed?
- Amser llawn/rhan-amser?
- Lleol/DG/Tramor?
- Gwryw/benyw?
Sut
fywyd cymdeithasol sydd yna?
- Undeb
y myfyrwyr?
- Clybiau
a chymdeithasau o fewn y Brifysgol?
- Tafarnau
a chlybiau?
- Sîn
gerddoriaeth?
- Sinemâu
a theatrau?
- Chwaraeon
ac awyr agored?
- Siopau?
TIP
TANBAID!
|
Dos i weld drosot dy hun. Buddsodda mewn cerdyn bws neu drên a dos i ddiwrnodau agored prifysgolion.
|
Ga’
i fy nerbyn?
Efallai
y byddi di am fod gyda nhw – ond na fyddan nhw dy eisiau di! Mae’n
tueddu i fod yn fwy anodd cael lle ar gyrsiau mewn prifysgolion
poblogaidd, Gan mai un ffordd i brifysgolion i leihau’r nifer o
ymgeiswyr yw trwy ofyn am raddau uwch. Wrth gwrs mae hyn yn amrywio
yn ol y pwnc.
RHYBUDD
IECHYD!
|
Dyw
poblogrwydd ddim run fath ag ansawdd! Hola am ansawdd y dysgu
a’r ymchwil mewn gwahanol adrannau prifysgol. Gelli gael y
wybodaeth oddiwrth rhai tablau cynghrair, prospectysau, trwy
ofyn i fyfyrwyr ddefnyddio byrddau hysbysebu ar y Rhyngrwyd.
Dylid edrych ar y tablau cynghrair gyda phinsaid o halen.
Mae rhai yn addasu’r canlyniadau trwy edrych ar y graddau
mae prifysgolion yn gofyn amdanyn nhw. Felly, fe fyddai prifysgol
sy’n gofyn am raddau A neu B yn cael ei graddio’n uwch na’r
rhai sy’n gofyn am C neu D. Fe fydd y math yma o asesiad yn
‘plygu’r graddio ac yn ffafrio’r prifysgolion mwy traddodiadol
gan y byddai prifysgolion mwy newydd yn gofyn am raddau ychydig
is. Mae prifysgolion newydd hefyd yn fwy tebygol o gynnig
rhyng-gyrsiau gan dy alluogi i gael blwyddyn o Brofiad Gwaith.
Byddai hyn, heb amheuaeth, yn rhoi sgiliau gwaith gwerthfawr
i ti ac yn dy wneud yn haws dy gyflogi yn y dyfodol. Offeryn
ymchwil da arall yw cysylltu a’r Gwasanaeth Gyrfaoedd ar gyfer
pob prifysgol i gael gweld y nifer o raddedigion o bob cwrs.
|
Oes
gen ti ofynion arbennig?
I gael cyngor am gyfleusterau i fyfyrwyr anabl dos i safle SKILL.
Dos
i Lincs i gael atebion i rai o’r cwestiynau ar y dudalen hon.
|