Astudio Rhaglen Hyfforddiant Genedlaethol
Oed:
19
Coleg:
Dwi wedi bod yn gwneud Hyfforddiant Cenedlaethol
mewn Gofal Cwsmeriaid yng Ngholeg Ystrad Mynach
a dwi bellach yn gwneud NVQ Lefel 3 mewn Gofal
Cwsmeriaid.
Gwaith:
Dwi'n dderbynwraig mewn cwmni sy'n darparu offer
a gwasanaethau i bobl anabl. Fe wnes i ofyn
i'r rheolwyr a fyddwn i'n cael mynd ar gwrs
i ddysgu mwy am y gwaith roeddwn i'n ei wneud.
Roedd un o'r peirianwyr eisoes ar gwrs yng Ngholeg
Ystrad Mynach, ac roeddwn i'n teimlo'n awyddus
i ddysgu mwy hefyd.
Camu
ymlaen:
Fe wnes i ofyn pa gyrsiau oedd ar gael ar 么l
NVQ Lefel 2. Cefais wybod am yr holl opsiynau
gwahanol, ond roeddwn i'n teimlo y byddai'n
fwy manteisiol i'r cwmni pe bawn i'n gorffen
NVQ Lefel 3. Fe wnes i benderfynu mynd ymlaen
i wneud NVQ Lefel 3, oherwydd i mi ddysgu llawer
ar y cwrs gwreiddiol. Roeddwn i eisiau dysgu
mwy am adran arall o waith y cwmni. Mae'r cwrs
newydd wedi rhoi gwell dealltwriaeth i fi o
ystod ehangach o bwyntiau.
Sut:
Mae pob cwrs yn para blwyddyn, a dydw i ddim
yn treulio dyddiau allan. Mae tiwtor yn galw
un prynhawn yr wythnos i drafod pethau'n breifat.
Mae hi hefyd yn fy asesu tra dwi'n gweithio.
Mae'n ffordd wych o weithio gan mod i'n cael
aros wrth fy nesg, ac yn dysgu wrth fynd ymlaen,
hynny yw, dwi'n dysgu sut i gyfathrebu'n well
芒 chwsmeriaid tra dwi yno. Dwi wedi cael ffolder
sy'n cynnwys y meysydd mae'n rhaid i mi ymdrin
芒 nhw. Mae'r penaethiaid hefyd yn cadw cofnod
o sut maen nhw'n meddwl mae pethau'n mynd, a
dwi'n cael cyfle i roi sylwadau ar sut dwi'n
teimlo wrth i ni fynd yn ein blaenau.
Y
cwrs:
Mae'r cwrs wedi bod yn un da i mi, gan ei fod
yn cynnwys meysydd nad oeddwn i wedi eu hystyried
fel rhai ym maes Gofal Cwsmeriaid. Dwi bellach
yn gwybod mwy am bynciau fel rhoi sylw i gwsmeriaid
mewn ystafell arddangos, sut i gyfathrebu 芒
nhw, a sut i ddeall eu hanghenion. Ar ddiwedd
y flwyddyn, dwi'n gobeithio symud ymlaen i astudio
NVQ lefelau 2 a 3 mewn pwnc arall, Gwaith Derbynfa
Gwesty.
Cyngor:
Fe fyddwn i'n dweud wrth unrhyw un sy'n ystyried
gwneud y cwrs yma ei fod e'n werth yr amser
a'r ymdrech i fynd i fyny lefel, gan ei fod
yn tynnu mwy allan ohonoch chi ac yn eich gwneud
chi'n well person, ac yn weithiwr mwy cyflawn.
|