Cymryd Blwyddyn Allan
Oed:
27
Coleg
neu Brifysgol:
Prifysgol Caerhirfryn a Phrifysgol Fetropolitanaidd
Manceinion. Ecoleg oedd fy ngradd gyntaf. Gradd
Meistri mewn Bioleg Cadwraeth yw fy ngwaith
么l-raddedig i. Mi fyddwn i'n hoffi rhedeg cwrs
hyfforddi i baratoi pobl ar gyfer gwaith cadwraeth
dramor, a'u hanfon i wneud hynny - felly os
ydych chi eisiau gweithio gyda lemyriaid ym
Madagascar, crwbanod m么r yng Ngwlad Groeg neu
barotiaid ym Mrasil, y fi yw'r dyn i'w holi!
Pam
cymryd blwyddyn allan:
Roedd fy swydd flaenorol yn y DU, ym maes datblygiad
rhyngwladol. Wrth i 'nghytundeb i ddod i ben,
mi wnes i ddod ar draws swydd dysgu Saesneg
ym Mrasil. Roedd y cwrs hyfforddi yn Sbaen,
felly roedd yn golygu mis ychwanegol a gwlad
ychwanegol ar gyfer fy mlwyddyn allan. Mi wnes
i bacio fy magiau a threulio mis yn Barcelona.
Sut:
Roedd yn hawdd iawn. Mi welais i'r swydd yn
y swyddfa yrfaoedd ac mi wnes i e-bostio fy
nghais. Ar 么l i mi gael fy nerbyn, mi wnaeth
popeth weithio fel wats. Ychydig ddyddiau wedyn,
mi wnes i gael fy nerbyn ar y cwrs Dysgu Saesneg
fel Iaith Dramor (TEFL). Mi wnes i ddweud fy
mod yn gadael fy fflat ym Manceinion gan ddychwelyd
i Ogledd Cymru am fis. Wedyn, pacio fy magiau
am Sbaen...
Y
profiad:
Dwi'n dysgu Saesneg mewn ysgol Saesneg newydd
yn ninas Cuiab谩 ym Mrasil. Mae Cuiab谩 yn dref
ffyniannus, ac mae'r rhan fwyaf o bobl sydd
eisiau dysgu Saesneg yn bobl broffesiynol ifanc.
Rydym ni'n eu dysgu am awr, wedyn yn treulio
cyfnod yn y bar y tu allan yn ymlacio, sy'n
gyfle iddyn nhw ymarfer eu sgiliau sgwrsio!
Mae'r cyfnodau prysuraf rhwng 5pm a 10pm. Mae
gweddill yr oriau'n rhydd.
Amser
gwaethaf:
Dwi wedi gorfod gwneud ymdrech i hogi fy ymennydd
yn ystod y dydd er mwyn peidio diflasu. Dwi
hefyd yn rhannu llety gyda fy mhennaeth, felly
dwi wedi gorfod bod yn broffesiynol drwy'r adeg.
Cyngor:
Treuliwch eich blwyddyn allan yn gwneud gwaith
cadwraeth - gorau oll lle mae'r haul yn tywynnu.
Gwnewch yn siwr y bydd yn brofiad gwerthfawr
fydd yn hwb i'ch CV, nid tocyn o gwmpas y byd
yn unig. Gwnewch yn siwr fod y gwaith papur
yn gyflawn cyn i chi gychwyn, ac ewch 芒'ch hoff
gasetiau gyda chi. Mi fyddech chi'n synnu faint
o gysur yw cwmni cerddoriaeth gyfarwydd.
|