´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Nôl i'r dudalen gartref
swyddi sgiliau hyfforddiant addysg uwch addysg bellach

´óÏó´«Ã½ Homepage
Addysg
» Jyst y Job
Swyddi
Sgiliau
Hyfforddiant
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Siarad o brofiad

Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Addysg Uwch
Ìý


Blwyddyn Allan

Eisiau egwyl cyn dechrau ar dy gwrs AU?
Am wneud rhywbeth gwahanol?

Mae un o bob pum myfyriwr erbyn hyn yn cymryd Blwyddyn Allan rhwng yr ysgol a’r brifysgol.

Beth fedrwn i ei wneud mewn Blwyddyn Allan?

  • Cymryd rhan mewn prosiectau gwaith gwirfoddol gartref a thramor
  • Mynd ar gynllun profiad gwaith fel y ‘Flwyddyn mewn Diwydiant’
  • Cael swydd dros dro neu dymhorol gartref neu dramor
  • Teithio’n annibynnol i wledydd eraill
  • Dysgu sgil newydd drwy fynd ar gwrs byr
  • Cyfuno mwy nag un o’r rhain yn ystod y flwyddyn

Beth yw diben Blwyddyn Allan

Rhoi egwyl i ti dy hun rhag astudio’n llawn amser.

Gwneud rhywbeth gwahanol a chael profiad o’r ‘byd go-iawn’.

Helpu eraill a rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.

Datblygu dy sgiliau rhyngbersonol a sgiliau perthnasol-i-waith sydd mor werthfawr i gyflogwyr.

Dod yn fwy aeddfed, annibynnol a hunan-hyderus fel y gelli di ymdopi’n fwy llwyddiannus yn y brifysgol.

Ehangu dy orwelion drwy ddysgu am ddiwylliannau eraill a ffyrdd gwahanol o fyw.

Cynilo rhywfaint (efallai) er mwyn talu am dy gwrs AU.

Siarad o brofiad...

Dwi'n dysgu Saesneg mewn ysgol Saesneg newydd yn ninas Cuiabá ym Mrasil. mwy>>

John Beaumont

Blwyddyn Allan - yr anawsterau

Gall trefnu’r flwyddyn gymryd llawer iawn o amser a bod yn waith caled.

Mae angen dyfalbarhad a phenderfyniad arnat i ddod i wybod am gyfleoedd a gwneud trefniadau.

Fe allet ti wastraffu blwyddyn yn gwneud fawr ddim. Fydd hynny ddim yn edrych yn dda ar geisiadau i’r brifysgol na cheisiadau am swyddi.

Mae rhai cynlluniau’n costio llawer iawn o arian. Fedri di fforddio hynny?

Wnei di anghofio sut mae astudio?

Os wyt ti am fynd ymlaen i’r brifysgol wedyn bydd rhaid i ti wneud cais am le wedi ei ohirio neu wneud cais yn ystod dy flwyddyn allan (ddim yn hawdd os wyt ti dramor). Er bod y rhan fwyaf o adrannau prifysgol yn barod i dderbyn ceisiadau am le wedi ei ohirio, cofia holi ynglyn â hynny yn gyntaf.

Siarad o brofiad...

Dwi wedi dysgu bod yn annibynnol, ond doedd bod yn gyfrifol am fy arian fy hun ddim yn hawdd... mwy>>

Rebecca Ann Etchells

I ble’r a’ i nesa?

Dos i dudalen Lincs i weld safleoedd gwe defnyddiol.

Dylai fod gan dy ysgol, coleg, llyfrgell leol neu Ganolfan Gyrfaoedd wybodaeth am gyfleoedd Blwyddyn Allan, gan gynnwys enwau a chyfeiriadau cyswllt.

Ìý

Lincs

Hefyd...
Astudio dramor
Beth nesa ar ôl AU?

Cam nesa...
Swyddi
Sgiliau ar gyfer gwaith


randomly included tips

randomly included tips

anfona egerdyn!


top

swyddi

sgiliau

hyfforddiant

add. uwch

add. bellach

sgwrs


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý