Dewis pynciau
Oed:
18
Ysgol:
Ysgol Sant Joseff, Port Talbot. Gwneud 3 Lefel
A mewn Celf a Dylunio, Hanes ac Economeg Cartref
(Tecstilau).
Fy
ngham nesaf yw Cwrs Sylfaen Celf - cwrs blwyddyn
- ym Mhrifysgol Fetropolitanaidd Manceinion.
Yna gradd 3 blynedd mewn Ffasiwn a Thecstilau
neu Wniadwaith naill ai yn Llundain, Manceinion
neu Nottingham.
Fy
uchelgais yw gweithio ym maes dylunio.
Y
cwrs:
Rhain fu fy mhynciau cryfaf yn yr ysgol erioed.
Am dair blynedd bellach, dwi wedi ymddiddori'n
arbennig mewn Dylunio, oherwydd dwi wrth fy
modd gyda'r syniad o gynllun yn troi'n realiti
ac yn gynnyrch terfynol. Mae'n waith caled,
ond mae'n rhoi llawer o foddhad.
Pam
gwneud cwrs sylfaen cyn gwneud gradd:
Roeddwn i wedi bwriadu mynd yn syth ymlaen i
wneud gradd, ond wedyn fe wnes i feddwl y byddai'r
cwrs sylfaen yn ehangu fy ngorwelion. Mae'r
cwrs Lefel A mewn Celf a Dylunio yn gyfyngedig
iawn, dim gwaith ffotograffiaeth, serameg na
gwaith plastig. Dyna pam roeddwn i'n awyddus
i gael profiad o'r rhain ar y cwrs sylfaen.
Mae'n golygu blwyddyn ychwanegol, ond fe fydd
o gymorth i mi yn y tymor hir.
Y
radd:
Yn naturiol, dwi'n gobeithio y bydd yn gymorth
i mi gael swydd, ond dwi'n gwybod bod y cwrs
hefyd yn cynnwys lleoliadau yn y diwydiant neu
hyd yn oed dramor, felly dwi'n gobeithio y bydd
hynny'n ddefnyddiol hefyd.
Cystadleuol:
Roedden nhw'n cyfweld 400 o bobl am 175 o lefydd
ar y cwrs sylfaen. Mae'n rhaid i chi sefyll
allan yn y byd ffasiwn er mwyn denu sylw - dwi'n
dal i weithio ar fy arddull bersonol unigryw
fy hun, a dwi'n gwybod y bydd cwrs gradd yn
gymorth i mi ei datblygu.
|