Cyfweliadau
Ydy cyfweliadau’n achosi straen i ti? Wyt ti’n teimlo’n
nerfus ymlaen llaw? Yn teimlo nad wyt ti wastad yn gwneud dy orau? Ddim ti yw’r unig un!
Mae’r rhan fwyaf
ohonom yn casáu cyfweliadau. Ond, gelli roi gwell cyfle i ti dy hun gyda’r allwedd i lwyddiant... paratoi!
Deg
awgrym ar gyfer gwella dy sgiliau cyfweliad
Cofia baratoi
Dylet ddysgu cymaint â phosib am y cwmni a’r swydd ymlaen llaw.
Efallai bod gan dy llyfrgell leol ddeunydd ar y cwmni ei hun. Gofyna
i dy ffrindiau a’th deulu. Ydyn nhw’n cyhoeddi adroddiad blynyddol?
Efallai bod gan y Ganolfan Waith a’r Ganolfan Gyrfaoedd wybodaeth
a allai fod yn ddefnyddiol i ti.
Ceisia ganfod pa fath o gyfweliad rwyt ti’n debygol o’i gael. Sgwrs
gyfeillgar un-i-un? Panel cyfweld ffurfiol? Profion ysgrifenedig?
Meddylia sut mae ateb y cwestiynau amlwg (‘pam ydych chi eisiau’r
swydd hon?’) y noson gynt.
Meddylia am rai cwestiynau yr hoffet ti eu gofyn.l Dewisa rai sy’n
swnio fel pe bai gen ti ddiddordeb gwirioneddol yn y swydd fel ‘fedrwch
chi ddweud mwy wrtha i am hyfforddiant?’ ‘fedra i gael blas ar weithio
mewn adrannau eraill?’
Bydda’n drefnus
Cofia wisgo’n daclus ac yn dwt.
Gwna’n siwr dy fod ti’n mynd i’r lle iawn, ar y dyddiad iawn ac
erbyn yr amser cywir.
Gwna’n siwr dy fod ti’n gwybod sut mae mynd yno a chofia adael cartref
mewn da bryd. Dyw ‘ymarfer ffug’ byth yn wastraff amser.
Pethau na ddylid eu gwneud mewn cyfweliad
PAID Â ......
1. Chyrraedd yn hwyr/mynd
i’r lle anghywir/ar y diwrnod anghywir/ar yr amser anghywir!
2. Mynd i mewn i’r stafell gyfweld heb gnocio,
nac eistedd heb i rywun ofyn i ti wneud hynny.
3. Cnoi, smygu na bod â dim byd yn dy geg.
4. Cracio jôcs.
(Gall hynny swnio fel pe na bait ti’n cymryd pethau o ddifrif neu fod dim ots gen ti).
5. Edrych yn flêr
neu fel pe na bait ti wedi gwneud ymdrech o ran y ffordd rwyt ti’n edrych.
6. Rhoi atebion un gair (‘ydw’
a ‘nac ydw’) i gwestiynau.
7. Bod yn amwys am dy ganlyniadau arholiad neu’r swyddi rwyt ti wedi eu gwneud
yn y gorffennol (byddan nhw’n meddwl fod gen ti rywbeth i’w guddio).
8. Dweud unrhyw beth nad yw’n wir.
9. Gofyn cwestiynau (‘faint mae amser te yn ’i bara?’) sy’n swnio fel pe na bai gen ti ddiddordeb mewn
dim ond yr hyn gei di allan o’r trefniant.
10. Siarad gormod .... na rhy ychydig!
Rho gynnig ar ein cyfweliad rhyngweithiol
|