大象传媒

Martha

Martha, Y Fenni - yn y ffeinal

Enillydd Rhaglen 2

Pwnc arbenigol rhaglen 2:

Llyfrau'r Spiderwick Chronicles

Pwnc arbenigol y ffeinal:

Ffilmiau Pixar o 1995 hyd at 2001

Mae Martha yn mwynhau darllen llyfrau antur fel y Spiderwick Chronicles gan Holly Black a Tony DiTerlizzi, ei phwnc arbenigol.

"Mae'r Spiderwick Chronicles yn s么n am dri o blant ac maen nhw'n gweld creaduriaid rhyfedd a diddorol ac mae'n ddiddorol i ddarllen amdanyn nhw a sut maen nhw'n byw. Mae 'na bump llyfr, ac yn y diwedd, ac mae 'na ogre sy'n tr茂o cymryd drosodd y Spiderwick Estate, ac maen nhw angen tr茂o ei stopio," eglura.

"Mae'r plant fel ni. Maen nhw'n cael problemau, ond hefyd, maen nhw'n gweithio gyda'i gilydd i dr茂o sortio nhw mas. Maen nhw'n cael anturiaethau sydd yn dda i'w gweld."

Yn ogystal 芒 mwynhau darllen llyfrau antur mae Martha yn ysgrifennu ei stor茂au ffantasi ei hun am ddreigiau ac anifeiliaid rhyfedd: "Mae pethau jyst yn dod mewn i'r ymennydd a dwi jyst yn eu hysgrifennu nhw i lawr," meddai.

Mae Martha hefyd yn gallu canu mewn Almaeneg a chwarae'r piano ac mae'n hoff iawn o dd诺dlo ac yn mwynhau gwersi Celf a Chrefft a Dylunio a Thechnoleg yn yr ysgol.

Un arall o'i hoff bethau yn yr ysgol ydy gwneud arbrofion gwyddonol yn y gwersi Gwyddoniaeth a bydd yn mwynhau tynnu clociau a fflachlampau yn ddarnau pan fydd hi adref!

"Rydw i eisiau ymddangos ar Mastermind Plant Cymru oherwydd bydd y profiad yn dda iawn a byddaf yn hoffi siarad am fy mhynciau ac yn mwynhau tr茂o ateb y cwestiynau am y pynciau rydw i'n mwynhau ymchwilio iddyn nhw a'u hastudio."


大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.