大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
大象传媒 CymruMosgito, Newid byd

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Gwaith ysgol

Gwaith Ysgol

Wyt ti eisiau gwneud yn dda yn yr ysgol? Mae Mosgito wedi bod yng nghwmni dau seleb galluog i weld pa tips sydd ganddyn nhw i chi ... Luned Emyr sy'n cyflwyno'r Sioe Gelf a Hefin o'r gr诺p Mattoidz.

Holi Luned...

Mosgito: Dw锚d ychydig wrthon ni am yr hyn astudiaist ti yn yr ysgol. Dw i'n credu'n gryf mewn ymroi i'r hyn rydan ni'n mwynhau ei wneud. Ro'n i'n astudio fy mhynciau Lefel A gan ei fod yn gyfle imi ddysgu mwy am y pynciau ro'n i'n eu mwynhau fwyaf, sef Drama, Celf a Chymraeg.

Mosgito: Oeddet ti'n gweithio'n galed drwy'r amser? Ro'n i'n gweithio'n galed yn fy oriau hamdden ac yn taflu fy hun i mewn i'r gwaith. Erbyn meddwl, doedd y gwaith ddim yn teimlo fel gwaith o gwbl gan fy mod yn mwynhau fy hun gymaint!

Mosgito: Roeddet ti'n amlwg yn hoff iawn o dy bynciau Lefel A! Ond beth am dy TGAU? Wrth gwrs, roedd gofyn imi astudio rhai pynciau nad oeddwn i'n dymuno eu hastudio at fy arholiadau TGAU, ac roedd hynny'n gallu bod yn her. Ond mi astudiais orau gallwn i gan drio peidio 芒 phoeni am y llwyth gwaith a'r arholiadau.

Mosgito: At bwy oeddet ti'n troi pan fyddai pwnc yn her? Ro'n i'n barod i ofyn am gyngor ac arweiniad gan yr athrawon (cofiwch eu bod nhw yna i'ch helpu chi), a byddwn i a fy ffrindiau yn helpu ein gilydd drwy gyd-astudio a thrafod gwaith.

Holi Hefin...

Mosgito: Beth yw dy gyngor di i berson ifanc sydd yn yr ysgol heddiw? Gwna gymaint o amrywiaeth o bethe 芒 phosibl - o rygbi i siarad cyhoeddus, achos dwyt ti byth yn gwybod pryd daw'r profiadau hyn yn ddefnyddiol.

Mosgito: Beth os yw rhywun yn becso am gael eu beirniadu am weithio? Paid 芒 becso am fod yn 'geek' - mae gweithio'n galed yn talu ei ffordd os cei di fynd i'r coleg (a ma' merched pert angen help 'da'u gwaith cartref 'fyd!)

Mosgito: Oes gen ti unrhyw awgrymiadau am bethau allai helpu gyda dysgu y tu allan i'r ysgol? Darllena'r papurau newydd! Ond cofia gwestiynu beth maen nhw'n ei ddweud hefyd - mae yna wastad safbwynt arall ar gael.

Cysylltiadau defnyddiol

Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy